article

Mae Gweriniaeth Arianninol (Sbaeneg: República Argentina) neu'r Ariannin yn wlad lle siaredir Sbaeneg yn ne-ddwyrain De America, rhwng yr Andes a rhan ddeheuol y Môr Iwerydd. Mae'n ffinio â Uruguay, Brasil, Paraguay, Bolifia a Chile.
Mae'r enw Sbaeneg yn dôd o'r Lladin argentum (arian), metel gwerthfawr a annogodd yr ymgartrefu cynnar Ewropeaidd.

Hanes


Prif Erthygl: Hanes yr Ariannin

Cyrhaeddodd yr Ewropeaid y rhanbarth yn gynnar yn y 16fed canrif. Arweiniodd gwladychiad y tiroedd gan y Sbaenwyr at sefydlu trefedigaeth sefydlog ar safle Buenos Aires yn 1580. Cafwyd datganiad o annibyniaeth oddi wrth Sbaen yn 1816, ond roedd yna wrthdarro ymhlith ei gilydd rhwng y canolwyr a'r ffederalwyr tan proclamasiwn y cyfansoddiad newydd yn 1853.

Roedd ne adegau o groestyniad gwleidyddol rhwng y ceidwadwyr a'r rhyddfrydwyr, ac rhwng ymbleidiau sifilwrol a milwrol. Ar ol yr Ail Rhyfel y Byd gwelodd codiad y mudiad poblogol Peronistaidd. Roedd 'ne juntas gwaedlyd bob yn ail efo llywodraethau democratig tan 1983, yn dilyn problemau economaidd mawr, a'r trechiad yn Rhyfel y Falklands.

Ers hynny cafwyd pedwar etholiad rhydd i bwysleisio gwelliant yr Ariannin yn cydgyfnerthiad democrataidd, ond roedd mewnfrwydrad economaidd digynsail yn 2001 a dechrau 2002.

Gwleidyddiaeth


Prif Erthygl: Gwleidyddiaeth yr Ariannin

Mae Cyfansoddiad yr Ariannin o 1853, diwygiedig yn 1994, yn gwahanu nerthau i cainciau gweithredol, deddfwriaethol, a barnwrol, ar safonnydd cenedlaethol a taleithiol. Ni all yr arlywydd a'r is-arlywydd gael eu hethol am fwy na dau dymor o bedair blynedd yn olynol. Gellir sefyll am drydydd tymor neu mwy ar ôl egwyl o un tymor neu fwy. Mae'r Arlywydd yn penodi gwenidogion y llywodraeth ac mae'r Cyfansoddiad yn rhoi llawer o rym iddo fe fel pennaeth yr ystad ac fel pennaeth y llywodraeth, yn cynnwys yr awdurdod i wneud cyfreithiau trwy Ddyfarniad Arlywyddol pan mae ne amodau "pwysig ac anghenrheidiol".

Senedd yr Ariannin yw'r Cyngres Cenedlaethol dwy-siambr, neu Congreso Naciónal, yn cynnwys senedd (Senado) o 72 seddi a Siambr Dirpwyon (Cámara de Diputados) o 257 aelod. Ers 2001 mae pob talaith, hefyd y Prif Ddinas Ffederal, yn ethol 3 seneddwr. Mae'r Seneddwyr yn gael eu ethol am dymor o 6 blynedd, gydag etholiadau am 1/3 y Senedd pob 2 flynedd. Mae aelod y Siambr Dirpwyon yn gael ei ethol am 4 blynedd, ac mae hanner y Siambr yn cael eu ethol pob 2 flynedd.

Taleithiau


Prif Erthygl: Taleithiau'r Ariannin

Mae gan yr Ariannin 23 talaith (provincias, unigol - provincia), ac 1 rhanbarth ffederal (distrito federal), sylweddoli gan *:

Daearyddiaeth


Prif Erthygl: Daearyddiaeth yr Ariannin Ar-map.png

Mae'n posibl i rhannu'r Ariannin mewn tri darn: Y gwastadedd ffrwythlon y Pampas yn hanner gogledd y wlad, calon cyfoeth amaethyddol yr Ariannin; y llwyfandir Patagonia yn hanner de y wlad, i lawr i Tierra de Fuego; a mynyddoedd yr Andes yn y gorllewin. Pwynt uchaf yr Ariannin yw Cerro Aconcagua am 6,960 m.

Mae'r prif afonydd yn cynnwys yr Paraguay, Bermejo, Colorado, Uruguay ac y mwyaf, y Parana. Mae'r ddwy olaf yn llifo gyda'n gilydd cyn cyrraedd y Môr Iwerydd, i ffurfio aber y Rio de la Plata (Afon Plât). Mae hinsawdd yr Ariannin yn tymherus am y mwyafrif, ond gyda hinsawdd isdrofannol yn y gogledd a sych/is-Antarctig yn y dde pell.

Economi


Prif Erthygl: Economi'r Ariannin

Mae gan yr Ariannin adnoddau naturiol werthfawr, poblogaeth gwybodus iawn, amaeth da, a bas diwydiannol amrywiad. Yn anfoddus, ers yr hwyr 1980au roedd y gwlad wedi ffurfio dyledion mawr, roedd chwyddiant wedi cyrraedd 200% pob mis, ac roedd cynnyrch yn syrthio. I wellio'r argyfwng economaidd, dechreuodd y llywodraeth ar ffordd i rhyddfrydoli masnach, di-rheoli, a preifateiddio. Yn 1991 daeth y peso eu sefydlu i'r Doler Americanaidd.

Roedd y diwygiadau yn llwyddiannus yn y dechrau, ond roedd argyfyngau economaidd hwyrach yn Mecsico, Asia, Rwsia a Brasil yn gwaethygu pethau o 1999 i flaen. Yn 2001 dymchwelodd y system bancio, ac roedd y peso yn nofio yn erbyn y doler ers Chwefror 2002.

Demograffaeth


Prif Erthygl: Demograffaeth yr Ariannin

Mae pobl yr Ariannin yn dod o llawer o grwpiau cenedlaethol ac ethnig, gyda disgynyddion pobl o'r Eidal a Sbaen yn y mwyafrif. Mae ne tua 500,000 pobl o'r Canol Ddwyrain (Syria, Libanus, a gwledydd eraill) yn byw yn y dinasoedd. Yr unrhyw iaith swyddogol yw Sbaeneg.

Cysylltiadau allanol


De America | Gwledydd y Byd | Yr Ariannin

Argentinië | Archentina | الأرجنتين | Arxentina | Аргентына | Аржентина | আর্জেন্টিনা | Argentina | Argentina | Argentina | Argentina | Argentinien | Αργεντινή | Argentina | Argentino | Argentina | Argentina | Argentina | آرژانتین | Argentiina | Argentina | Argentine | Argentina | Arxentina - Argentina | ארגנטינה | अर्जेन्टीना | Argentina | Ajantin | Argentína | Արգենտինա | Argentina | Argentina | Arjentinia | Argentína | Argentina | アルゼンチン | არგენტინა | 아르헨티나 | Arjantîn | Arghantina | Argentina | Argentinien | Argentinië | Argentina | Argentīna | Аргентина | Argentina | Argentina | Arxentina | Argentinien | Argentinië | Argentina | Argentina | Argentina | Argentyna | ارجنټاين | Argentina | Arhintina | Argentina | Argentina | Аргентина | अर्जन्टीना | Argintina | Argentina | Argentína | Argentina | Argjentina | Аргентина | Argentina | அர்ஜென்டினா | ประเทศอาร์เจนตินา | Arhentina | Arjantin | ئارگېنتىنا | Аргентина | Argentina | ארגענטינע | 阿根廷 | Argentina

 

This article is licensed under the GNU Free Documentation License. It uses material from the "Ariannin".

Home Pageartsbusinesscomputersgameshealthhospitalshomekids & teensnewsphysiciansrecreationreferenceregionalscienceshoppingsocietysportsworld