Blaenau Ffestiniog railway station 01.jpg
Modd cludo nwyddau neu bobl ar gledrau yw rheilffordd; cledrau o haearn ers y ddeunawfed ganrif, er bod wagenau yn cael eu tynnu gan geffylau ar gledrau pren yn cael eu defnyddio ganrifoedd yn ôl. Daeth rheilffyrdd yn bwysig iawn i gludo glo, haearn a nwyddau eraill yn ystod y Chwyldro Diwydiannol.
Y peiriant stêm cynatf i redeg ar gledrau oedd un Richard Trevithick ar 12 Chwefror 1804. Tynnodd cerbyd Travithick ddeg tunnell o haearn a 70 o ddynion o waith haearn Penydarren Merthyr Tudful mor bell ag Abercynon, ond yr oedd yn rhy drwm ac felly ddim yn effeithiol iawn. Ni dderbyniwyd y syniad a bu farw yn fethdalwr. Y rheilffordd stêm lwyddiannus gyntaf oedd Rheilffordd Stockton and Darlington. Dilynwyd hon yn fuan gan Rheilffordd Lerpwl a Manceinion gyda pheiriant enwog o'r enw Rocket gan George Stephenson
Mae'r rheilffyrdd yn defnyddio ynni yn llawer mwy effeithlon nag unrhyw fodd o gludiad peirianyddol arall - car, awyren neu llong. Mae trên yn defnyddio rhyw 50 - 70% yn llai o ynni i gludo pwysau penodedig o gymharu â thrafnidiaeth ffordd. Y prif rheswm dros hyn yw bod llai o ffrithiant rhwng olwynion a chledrau o gymharu â'r hyn a geir ar ffordd.Yn ogystal, mae arwynebedd blaen trên yn llai na'r hyn a geir ar gerbydau eraill, gan leihau'r gwrthiant aer. Mae'r effeithlonrwydd hwn yn golygu fod gan drafnidiaeth trên ôl troed ecolegol llai, ac yn gyfrannu llai at newid hinsawdd, na thrafnidiaeth ffordd.
Adeiladwyd y rheiffordd gyntaf yng Nghymru yn 1842 rhwng Merthyr Tudful a Chaerdydd. Yn y can mlynedd a ddilynodd, fe dyfodd rhwydwaith o rheilffyrdd dros Gymru gyfan, gan hwyluso trafnidiaeth pobl a nwyddau i ac o Loegr, yn ogystal ag o fewn Cymru. Mae rhai o'r rheilffyrdd hyn yn dal i redeg, ond fe fu i eraill gau, y rheilffyrdd mawr yn sgîl adroddiad Dr Beeching yn 1963, a'r rheilffyrdd bach yn sgîl dirywiad diwydiant. Erbyn hyn, y tri prif llwybr yn Nghymru fel a ganlyn: Prif Lein y Gogledd (o Gaergybi i Gaer a Crewe), Prif Lein y De (o Abertawe i Gasnewydd a Bryste), ac ar hyd y Gororau (o Gasnewydd i'r Amwythig. Yn ogystal, mae yna lwybrau gwledig, gan gynnwys Lein Calon Cymru, Rheilffordd y Cambrian, a'r lein gorllewinol o Abertawe i Gaerfyrddin, Penfro, Aberdaugleddau ac Abergwaun.
Железопътен транспорт | Hent-houarn | Železnice | Jernbane | Eisenbahn | Rail transport | Fervojo | Ferrocarril | راه آهن | Rautatieliikenne | Chemin de fer | Ferrocarril | Željeznica | Vasút | Ferrovia | 鉄道 | 철도 | Eisebunn | Geležinkelis | Iesenbahn | Spoorweg | Jarnbane | Jernbane | Kolej | Ferrovia | Cale ferată | Железнодорожный транспорт | Železnica | Železniški transport | Järnväg | ทางรถไฟ | Demiryolu | Залізничний транспорт | 鐵路運輸 | Thih-lō· ūn-su
This article is licensed under the GNU Free Documentation License.
It uses material from the
"Rheilffordd".
Home Page • arts • business • computers • games • health • hospitals • home • kids & teens • news • physicians • recreation• reference • regional • science • shopping • society • sports • world