article

Rhossili.beach.arp.500pix.jpeg | ThreeCliffsBay.jos.500pix.jpeg Mae Penrhyn Gŵyr yn Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol rhwng Bae Abertawe a Bae Caerfyrddin. Gan fod y creigiau o gerrig calch mae nifer o gilfachau ac ogofeydd yno. Yma mae Ogof Paviland, lle darganfuwyd sgerbwd dyn o'r Oesoedd Cynnar.

Tybir i Ffleminiaid lanio ac ymsefydlu ar rhannau deheuol a gorllewinol y penrhyn yn y ddeuddegfed ganrif ac, fel canlyniad, Saesneg fu prif iaith yr ardal honna ers canrifoedd. Arhosodd pentrefi gogledd-ddwyrain y penrhyn yn llefydd Gymraeg eu hiaith hyd ail hanner yr Ugeinfed Ganrif a chlwyir gwahaniaeth amwlg yn acenion a ffordd o siarad y ddwy ardal hyd heddiw.

Mae Penclawdd sydd ar yr arfordir gogleddol yn enwog am y cocos a gesglir oddi ar y traeth yno.

Heddiw mae Gŵyr yn boblogaidd iawn gyda dwristiaid dros misoedd yr haf. Erys amaethyddiaeth yn bwysig iawn yn yr economi lleol ond gwelir llawer o bobl yn ymddeol o ardaloedd eraill Cymru a Lloegr i fyw ymhentrefi Gwyr, ac felly yn codi pris tai allan o afael y brodorion.

Gower Peninsula

 

This article is licensed under the GNU Free Documentation License. It uses material from the "Penrhyn Gŵyr".

Home Pageartsbusinesscomputersgameshealthhospitalshomekids & teensnewsphysiciansrecreationreferenceregionalscienceshoppingsocietysportsworld