article

Cystadleuaeth rhwng adroddwyr, llefarwyr, llenorion, cantorion a cherddorion yw'r Eisteddfod fodern yn bennaf. Cynhelir amryw mawr a bach ledled Cymru ac hefyd ym Mhatagonia. Y rhai pwysicaf yw Yr Eisteddfod Genedlaethol, Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd ac Eisteddfod Rhyngwladol Llangollen.

Mae'n debyg mai'r cofnod gyntaf sydd gennym o eisteddfod yw honno yn Brut y Tywysogion am yr un a gynhaliwyd gan yr Arglwydd Rhys yn 1176 yn Aberteifi. Dywed y Brut 'Y Nadolig yn y flwyddyn honno y cynhaliodd yr Arglwydd Rhys ap Gruffudd lys yn ardderchog yn Aberteifi yn y castell ac y gosododd ddau ryw ymryson yno, un rhwng beirdd a phrydyddion, un arall rhwng telynorion a chrythorion a phibyddion ac amryfaelion genhedloedd cerdd miwsig'.

Cysylltiadau allanol


Hanes yr eisteddfod yn y 19eg ganrif ar wefan Amgueddfa Werin Cymru

Eisteddfod | Eisteddfod | Eisteddfod | Eisteddfod

 

This article is licensed under the GNU Free Documentation License. It uses material from the "Eisteddfod".

Home Pageartsbusinesscomputersgameshealthhospitalshomekids & teensnewsphysiciansrecreationreferenceregionalscienceshoppingsocietysportsworld