Barddoniaeth ydy'r gelfyddyd o fynegi'n brydferth y meddyliau a gynhyrchir gan y teimlad a'r dychymyg, fel arfer ond nid bob amser gyda llinellau o hyd arbennig, rythm arbennig a'r lllinellau yn odli. mae rhai wedi disgrifio Barddoniaeth fel ffordd arbennig o drin geiriau. Ymhlith y technegau y gall bardd ddefnyddio mae cymariaethau, trosiadau, odl, cyflythreniad ac ailadrodd
Ymhlith y math o fesurau barddoniaeth y gellir ei gael mae englyn, telyneg, soned, cywydd, a baled.
Daw'r engreifftiau gynharaf o farddonaieth Gymraeg o'r chweched ganrif, sef Canu Aneurin a Chanu Taliesin. Tua'r nawfed ganrif cafwyd Canu Llywarch Hen a Chanu Heledd.Gelwir y beirdd o'r cyfnod cynnar yn Gynfeirdd a'r beirdd yng nghyfnod y tywysogion yn Ogynfeirdd. Ar ôl cwymp Llywelyn 1282 gelwir y beirdd yn Feirdd yr Uchelwyr a ysgrifennau llawer o gywyddau, pobl fel Dafydd ap Gwilym a Iolo Goch. Bu trai ar ysgrifennu barddoniaeth ar ôl uno Cymru â Lloegr. Rhaid cofio serch hynny bod emynau yr emynwyr yn farddoniaeth aruchel, yn enwedig gwaith William Williams Pantycelyn ac Ann Griffiths. Ar
Yn y Gymraeg ceir Cynghanedd, rhywbeth sy'n unigryw i'r Gymraeg.
Poësie | Lyrik | Poezio | Poetry | Poesía | Art poétique | Poëzy | Poesía | שירה詩 | Poëzie | Poezja | Poesia | Поэзия | कविता | Poesi | Şiir
This article is licensed under the GNU Free Documentation License.
It uses material from the
"Barddoniaeth".
Home Page • arts • business • computers • games • health • hospitals • home • kids & teens • news • physicians • recreation• reference • regional • science • shopping • society • sports • world