article

Gweler hefyd Etholaeth Ynys Môn

Ynys Môn
Mae Ynys Môn yn sir ac yn ynys yng ngogledd-orllewin Cymru. Mae'r ynys wedi'i gwahanu oddi wrth y tir mawr gan Gulfor - Afon Menai. Cysylltir y tir mawr â'r ynys gan ddwy bont, y bont wreiddiol Pont y Borth a godwyd gan Thomas Telford yn 1826 a'r un mwy, Pont Britannia sydd yn cysylltu yr A55 â'r ynys ynghyd a rheilffordd arfordir gogledd Cymru. Ymhlith yr ynysoedd llai o gwmpas arfordir Môn mae Ynys Gybi, Ynys Seiriol, Ynys Llanddwyn ac Ynys Moelfre. Mae'n Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol.

Mae'r dref â'r enw hiraf yng Nghymru ar yr ynys, sef Llanfairpwllgwyngyllgogerychwyrndrobwllllantysiliogogogoch. Bydd pobl Môn yn ei alw'n Llanfair neu Llanfair P.G.

Mae sioe fawr amaethyddol, Sioe Môn, yn cael ei chynnal ar yr ail Ddydd Llun a Dydd Mawrth yn Awst bob blwyddyn ar gae Primin, sydd yn agos i bentref Gwalchmai.

Cestyll

Hanes Ynys Môn

Ymosododd y Rhufeiniaid ar Ynys Môn am ei fod yn fangre lle yr oedd ei gelynion yn gallu cael lloches, yr oedd y Derwyddon yn arwydd o wrthwynebiad gwleidyddol iddynt, ac yr yno ysguboriau grawn i borthi ei gelynion ac yr oedd posibilrwydd cael copor yno. Mae Tacitus yn disgrifio brwydr waedlyd ar yr ynys yn 60 O.C.

Ymhlith y seintiau y cysegrwyd eglwysi iddynt mae Cybi, Seiriol, Dona ac wrth gwrs Dwynwen, santes cariadon Cymru.

Pan oedd Tywysogion Cymru yn ymladd yn erbyn y gelyn roeddent yn aml yn dibynnu ar Ynys Môn am eu cyflenwad o ŷd. Oherwydd bod ŷd yn tyfu yno roedd nifer o felinau gwynt ar yr ynys flynyddoedd yn ôl. Yr oedd prif lys tywysogion Gwynedd yn Aberffraw.

Adeiladodd Edward I, Brenin Lloegr gastell yn Biwmares i'w helpu i ddal ei afael ar yr ynys.

Bu llawer o ymladd ar yr ynys adeg y rhyfel cartref rhwng y brenin a Cromwell.

Darganfuwyd copr yn Mynydd Parys ger Amlwch yn 1768.

Heddiw

Heddiw Llangefni yw prif dref yr ynys.

Mae'r ynys yn Etholaeth Cynulliad ac yn Etholaeth Seneddol ac yn rhan o Etholaeth Rhanbarthol Gogledd Cymru i'r Cynulliad Cenedlaethol. Ieuan Wyn Jones (Plaid Cymru) yw Aelod Cynulliad Ynys Môn, ac Albert Owen (Plaid Lafur) yw yr Aelod Seneddol.

Eisteddfod Genedlaethol


Cysylltiadau allanol


Anglesey | Anglesey | Môn | Anglesey | Anglesey | Anglesey | Anglesey | Anglesey | Ynys Mon | Anglesey | Anglesey | Anglesey | Anglesey | Anglesey | Англси | Anglesey

 

This article is licensed under the GNU Free Documentation License. It uses material from the "Ynys Môn".

Home Pageartsbusinesscomputersgameshealthhospitalshomekids & teensnewsphysiciansrecreationreferenceregionalscienceshoppingsocietysportsworld