article

Ardal yn nhalaith Chubut, Patagonia, yr Ariannin lle'r ymfudodd llawer o Gymry yn nghanol y bedwaredd ganrif ar bymtheg yw'r Wladfa (neu Gwladfa Patagonia). Mae cymunedau Cymreig mewn gwledydd eraill hefyd, megis Pennsylvania ac ardaloedd eraill UDA neu Awstralia, ond mae'r diwylliant a iaith Cymraeg yn amlycaf yn y Wladfa. Heddiw, mae tua 150,000 o bobl yn byw yn yr ardal a thua 20,000 ohonynt yn ddisgynyddion i'r Cymry. Mae tua 5,000 ohonynt yn siarad Cymraeg a chanoedd yn dysgu'r iaith.

Yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg roedd pobl yn gadael Cymru am fod y wlad yn newid yn gyflyn. O ganlyniad y Chwyldro Diwydiannol codwyd trefi newydd, gweithiau dur a phyllau glo a roedd llawer o Saeson yn dod i'r wlad. Ar wahân i broblemau tlodi roedd y Gymry yn chwilio lle i fyw eu bywyd eu hynain, gan eu crefydd eu hynain, eu hiaith eu hynain, eu traddodiadau eu hynain ac, wrth gwrs, eu hawliau gwleidyddiol cyflawn.

Cafodd y mewnfudwyr gan milltir sgwâr o dir ym Mhatagonia ym 1862 ar ôl cytundeb gan Dr Guillermo Rawson, Ysgrifennydd Cartref llywodraeth yr Ariannin o dan Arlywydd Bartolomé Mitre, er fod Cyngres yr Ariannin heb cadarnhau hynny. Sylfaenydd y Wladfa oedd y Parchedig Michael D. Jones, ond ni ddaeth e fyth i'r Wladfa. Pobl eraill yn enwog am eu hymdrech ar gyfer y Wladfa yw Barwn Love Jones-Parry o Fadryn, Lewis Jones, argraffydd o Lerpwl a'r Parchedig Abraham Matthews.

Ym mis Mai 1865 gadawon tua 160 o Gymry eu gwlad a hwylion o Lerpwl i Borth Madryn, (heddiw: Puerto Madryn) ym Mhatagonia ar long Mimosa. Cyrraeddon Porth Madryn ar 28 Gorffennaf ac roedd Lewis Jones ac Edwin Roberts yno yn barod i eu cyfarfod nhw. Y dref gyntaf a sefydlwyd oedd Rawson a enwiwyd ar ôl yr Ysgrifennydd Cartref s roddodd y tir iddynt. Roedd nifer o enwau answyddogol ar y dref hefyd, megis "Caer Antur" a "Threrawson". Cafodd y mewnfudwyr amser caled iawn yn y dechrau am fod y tir a'r hinsawdd yn wahanol iawn i'r hyn oedd yng Nghymru a'r tir yn sych ac anodd i'w ffermio. Felly roedd diffyg bwyd arnynt yn ystod y cyfnod cyntaf, ond roedd pethau yn newid pan awgrymodd Rachel Jenkins cloddio ffosydd o gwmpas yr afon i gario dŵr i'r ffermdai. Ers hynny, roedd ffermio a chadw gwartheg yn mynd yn well. Cyrraeddodd grwpiau eraill o Gymry rhwng 1874 a 1876.

Canolbarth y Wladfa yw Dyffryn Camwy, tua 60 km i'r gogledd Porth Madryn. Mae Afon Camwy (Río Chubut yn Sbaeneg, Río Chupat heddiw) yno. Mae'r enw Sbaeneg yn dod o'r enw yn iaith y Tehuelche, pobl wreiddiol yr ardal. Trefi pwysig yw Rawson, prif ddinas y dalaith ers 1884, Gaiman, y dref fwyaf Gymreig yr ardal, Dolavon a Threlew yn y dwyrain ac Esquel a Threvelin tua 500 milltir i'r gorllewin, yng Nhgwm Hyfryd, ar traed yr Andes.

Adeiladwyd rheillffordd o Ddyffryn Camwy i Fae Newydd (Golfo Nuevo yn Sbaeneg) a felly roedd hi'n bosib danfon cynhyrchion yr ardal i F-Buenos Aires. Ymestinwyd y rheillffordd hyd i Gaiman ym 1909.

Beth bynnag, roedd dadl rhwng yr Ariannin a Tsili pwy sy piau'r ardal, a phan ofynnodd y mewnfydwyr ym mha wlad yr oeddyn nhw eisiau trigo, "Yn yr Ariannin" oedd eu hateb nhw. Daeth y dadl rhwng y wledydd i ben pan gydnabwyd hawliau'r Ariannin gan y Wladfa ar 30 Ebrill, 1902.

Erbyn heddiw, mae diwylliant a thraddodiadau Cymru yn byw yn yr ardal, er enghraifft mae Eisteddfod yn cael ei chynnal dwywaith y flwyddyn. Adeiladwyd yr ysgol cyntaf a argraffwyd y papur newdd cyntaf gan Richard Berwyn ym 1868.

Er fod y mewnfudwyr wedi dod i'r Wladfa i gadw eu hiaith ac eu thraddodiadau, daeth Sbaeneg i fod yn iaith swyddogol ym 1880 a dros y blynyddoedd roedd y nifer o bobl yn siarad Cymraeg yn lleihau. Ond mae cysylltiadau rhwng y Wladfa a Chymru yn cryfhau ers y 1960au. Dechreuodd y Swyddfa Gymreig ariannu cwrsau Cymraeg i bobl y Wladfa ac anfon athrawon iddynt i gryfhau'r iaith. Mae'r rhaglen hon yn parhau erbyn heddiw, o dan Gynulliad Cenedlaethol Cymru.

Cyfeirnodion


Gal·lès de la Patagònia | Welsh settlement in Argentina

 

This article is licensed under the GNU Free Documentation License. It uses material from the "Y Wladfa".

Home Pageartsbusinesscomputersgameshealthhospitalshomekids & teensnewsphysiciansrecreationreferenceregionalscienceshoppingsocietysportsworld