Charles and Camilla.jpg Mab Brenhines Elisabeth II o'r Deyrnas Unedig yw'r Tywysog Siarl, Tywysog Cymru (Charles Philip Arthur George Mountbatten-Windsor) (ganwyd 14 Tachwedd, 1948).
Cafodd ei eni ym Mhalas Buckingham, gyda'r teitl Y Tywysog Siarl o Gaeredin.
Gelwir ef yng Nghymru yn aml yn Carlo, ar ôl cân enwog Dafydd Iwan o'r un enw, a oedd yn boblogaidd iawn yng Nghymru adeg ei arwisgo yn 1969.
Daeth ei arwisgo yn fater gwleidyddol a dadleuol iawn. Roedd tŵf Plaid Cymru a Cymdeithas yr Iaith yn ofid i'r Blaid Lafur a gwelodd George Thomas Ysgrifennydd Gwladol Cymru]] ar y pryd gyfle i wrthweithio'r tyfiant hwn wrth drefnu arwisgo'r tywysog yng Nghaernarfon yn 1969. Roedd y genhedlaeth ifanc o genedlaetholwyr yn gweld hyn yn sarhâd ar Gymru ac ar yr iaith.
Bu George Thomas yn ddigon cyfrwys i gael y tywysog yn fyfyriwr yng ngholeg Aberystwyth am dri mis i ddysgu'r Gymraeg. Ond pan ymwelodd y tywysog ag Eisteddfod yr Urdd a gwneud ei araith yn Gymraeg protestiodd nifer o'r bobl ifanc a cherdded allan. Cynhaliwyd rali enfawr yn erbyn yr arwisgo yng Nghilmeri.
Fe ddaeth Siarl i Aberystwyth er mwyn astudio'r Gymraeg.
Genedigaethau 1948 | Tywysogion Cymru
Чарлз (принц на Уелс) | Charles, prins af Wales | Charles Mountbatten-Windsor, Prince of Wales | Charles, Prince of Wales | Princo Karlo | Carlos de Inglaterra | Charles Mountbatten-Windsor | Walesin prinssi Charles | Charles, prince de Galles | הנסיך צ'ארלס | Charles, Prince of Wales | Carlo, Principe del Galles | チャールズ (プリンス・オブ・ウェールズ) | 찰스 왕세자 | Charlys, Pryns Kembra | Carolus Princeps Cambriae | Charles Mountbatten-Windsor | Prins Charles av Wales | Charles, prins av Wales | Karol Mountbatten-Windsor, książę Walii | Carlos, Príncipe de Gales | Charles, Prinţ de Wales | Чарльз, принц Уэльский | Charles av Storbritannien | เจ้าฟ้าชายชาร์ลส์ เจ้าชายแห่งเวลส์ | 查爾斯 (威爾斯親王)
This article is licensed under the GNU Free Documentation License.
It uses material from the
"Y Tywysog Siarl, Tywysog Cymru".
Home Page • arts • business • computers • games • health • hospitals • home • kids & teens • news • physicians • recreation• reference • regional • science • shopping • society • sports • world