article

William Salesbury (tua 1520 - tua 1584) oedd ysgolhaig mwyaf Cymru yng nghyfnod y Dadeni Dysg, a fu'n gyfrifol am wneud y cyfieithiad cyntaf o'r Testament Newydd i'r Iaith Gymraeg yn 1567.

Ganwyd yn Llansannan, Conwy ac fe'i addysgwyd ym Mhrifysgol Rhydychen lle astudiodd Hebraeg, Groeg a Lladin. Yno fe ddaeth yn ymwybodol o lyfrau gwaharddiedig Martin Luther a William Tyndale a thechnegau argraffu. Yn 1547 cyhoeddodd geiriadur Saesneg-Cymraeg yn 1547 ac Oll synnwyr pen Kembero ygyd, casgliad o ddiarhebion Cymreig a wnaed gan Gruffudd Hiraethog.

Bu William Salesbury, a oedd yn Brotestant i'r carn, yn cuddio mewn lloches drwy gydol teyrnasiad y frenhines Babyddol Mari I, felly ni argraffwyd dim byd ganddo yn y cyfnod hynny. Fel Erasmus a Martin Luther, credai William Salesbury yn gryf mewn gwneud y Beibl ar gael i bawb yn eu mamiaith. Dechreuodd ei gyfieithu gydag esgyniad y Frenhines Elisabeth i'r orsedd. Yn 1563 argymhellodd y Senedd i basio deddf a wnai cyfieithu'r Beibl i'r Gymraeg yn un o flaenoriaethau esgobiob Cymru a Henffordd.

Ei effaith ar yr Iaith Gymraeg


Ymdrechai William Salesbury i wneud y Gymraeg yn iaith safonol a fyddai'n dderbyniol gan ysgolheigion drwy ei Lladineiddio. Er enghraifft, roedd y rhagenw perthynol gwrywol yn cael ei ynganu i (fel y mae dal i fod mewn nifer o dafodiaethau), ond fe'i sillafwyd ei gan William Salesbury er mwyn ei wneud yn debycach i'r gair Lladin eius. Mae ei waith felly yn sylfaen ar gyfer Cymraeg Safonol fodern.

William Salesbury

Cymry enwog | Cristnogaeth

Christendom | Cristianismo | مسيحية | Хрысьціянства | Християнство | Cristianisme | Křesťanství | Kristendom | Christentum | Χριστιανισμός | Christianity | Kristanismo | Cristianismo | Kristlus | Kristautasun | Kristinusko | Kristindómur | Christianisme | Cristianesim | Críostaíocht | Cristianismo | נצרות | Kršćanstvo | Kereszténység | Christianismo | Kristen | Kristanismo | Kristni | Cristianesimo | キリスト教 | xi'ojda | Kristen | ქრისტიანობა | 기독교 | Kristoneth | Religio Christiana | Chrëschtentum | Christendom | Boklísto | Krikščionybė | Kristietība | Kristian | Christendom | Christendom | Kristendommen | Kristendom | Чырыстон дин | Chrześcijaństwo | Cristianismo | Creştinism | Христианство | Cristianesimu | Christianity | Kresťanstvo | Krščanstvo | Хришћанство | Kristendom | Ukristo | คริสต์ศาสนา | Kristyanismo | Hristiyan | Xristianlıq | Християнство | Kitô giáo | Crustinnisse | 基督教 | Ki-tok-kàu

 

This article is licensed under the GNU Free Documentation License. It uses material from the "William Salesbury".

Home Pageartsbusinesscomputersgameshealthhospitalshomekids & teensnewsphysiciansrecreationreferenceregionalscienceshoppingsocietysportsworld