Bu'r Blaid Lafur mewn grym yng Nghymru dros y rhan fwyaf o'r ganrif. Ffurfiwyd Plaid Cymru a Cymdeithas yr Iaith a sefydlwyd Y Swyddfa Gymreig yn 1964 a Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn 1999
Ond cafwyd dirywiad difrifol mewn nifer o'r diwydiannau traddodiadol ar ôl yr Ail Ryfel Byd, yn arbennig yn y maes glo. Yn 1913 cyflogid yn y gwaith glo 232,00o o ddynion, ond erbyn 1960 dim ond 106,000 a 30,000 yn unig erbyn 1979. Nid oedd ond un pwll glo ar ôl yng Nghymru erbyn 1990au.
Roedd dirywiad tebyg yn y diwydiant dur ac economi Cymru yn gyffredinol. Roedd Cymru fel nifer o wledydd eraill y gorllewin yn dod yn fwy fwy ddibynnol ar y sector gwasanaeth.
Un o ganlyniad y dirywiad yn y maes glo ac o ganlyniad esgeuluso diogelwch y tipiau glo oedd trychyneb Aberfan, pan lyncwyd ysgol gyfan gan lithriad gwastraff glo gan ladd 144 o blant ac athrawon.
Ar droad y ganrif yr oedd tua hanner poblogaeth Cymru yn aelodau o eglwys. Yn 1900 roedd gan y Methodistiaid Calfinaidd 158,111 o aelodau, yr Annibynwyr144,000 a'r Bedyddwyr 106,000. Erbyn diwedd y ganrif darlun o ddirywiad enbyd a geir.
This article is licensed under the GNU Free Documentation License.
It uses material from the
"Ugeinfed Ganrif yng Nghymru".
Home Page • arts • business • computers • games • health • hospitals • home • kids & teens • news • physicians • recreation• reference • regional • science • shopping • society • sports • world