Dinas yng ngogledd-ddwyrain talaith Chubut, yn yr Ariannin yw Trelew. Mae'r ddinas ar yr Afon Camwy (Rio Chubut), tua 25 km o'r môr, a 17 km o Rawson, prif-ddinas y dalaith. Enwyd y dref ar ôl Lewis Jones.
Mae gan Trelew boblogaeth o bron i 100,000, ond mae'r ddinas yn dioddef diweithdra mawr ers yr argyfwng economaidd yn 2000 ac mae llawer o bobol wedi symud i ffwrdd.
Maes awyr Trelew yw canolbwynt rhwydwaith trafnidiaeth canol Patagonia.