article Related Topics:
Tongues_Untied :: Tonic :: Tonkinese :: Tony_Hawk :: Tone-Loc :: Tonio_K. :: Tonic_Trouble :: Tonde_Bûrin :: Tonga :: Tones_on_Tail
 

Defnyddir tonnau i symud egni neu neges o un lle i'r llall. Gellir rhannu ton mewn i ddau gategori ardraws neu arhydol.

Tonnau Arhydol


Mewn tonnau arhydol mae'r gronynnau yn symud yn ôl ac ymlaen ar hyd cyfeiriad teithio'r ton. Esiamplau o'r rhain yw tonnau sain a thonnau seismig cynradd (tonnau P).

Tonnau Ardraws


Mewn ton ardraws, bydd y gronynnau yn symud yn ôl ac ymlaen mewn cyfeiriad sy'n normal i gyfeiriad y ton. Esiamplau o'r rhain yw tonnau dŵr a thonnau seismig eilradd (tonnau S). Mae'r tonnau electromagnetig yn tonnau ardraws hefyd, ond nid mater sy'n trosgwyddo'r dirgryniadau ar gyfer y rhain ond meusydd trydanol a magnetig.

Mesur Tonnau


Mae llawer o unedau i fesur mewn ton:
  • Tonfedd (l) = Mesurir mewn metrau fel uned SI. Hyd un ton gyfan yw tonfedd, ac fe'i mesurir o frig i frig neu o gafn i gafn.
  • Amledd (f) = Mesurir mewn Hertz (Hz), dyma yw faint o dirgryniadau mae'r don yn ei wneud pob eiliad
  • Cyflymder (v) = Mesurir mewn metrau yr eiliad, dyma faint o gyflym mae'r don yn symud.
  • Osgled = Y pellter mae gronyn yn cael ei symud o'i fan cychwyn.

Ffiseg

Golf (fisika) | موجة | Вълна | Ona | Bølge | Welle (Physik) | Wave | Ondo | Onda (física) | Uhin | Aalto | Onde | Onda (física) | גל | Hullám | Gelombang | Onda (fisica) | 波動 | boxna | 파동 | Banga | Gelombang | Bülg | Golf (natuurkunde) | Fala (fizyka) | Onda | Волна | Wave (physics) | Valovanje | Таласи | Mekaniska vågor | คลื่น | Chuyển động sóng |

 

This article is licensed under the GNU Free Documentation License. It uses material from the "Ton".

Home Pageartsbusinesscomputersgameshealthhospitalshomekids & teensnewsphysiciansrecreationreferenceregionalscienceshoppingsocietysportsworld