Roedd Gwynedd yn un o brif deyrnasoedd Cymru yn y canol oesoedd. Yr oedd ei ffiniau yn amrywio, yn dibynnu pa mor nerthol oedd y brenin neu'r tywysog, ond yr oedd yn cynnwys Eryri ac Ynys Môn. Yn draddodiadol roedd Gwynedd yn cael ei rannu yn ddau: "Gwynedd Uwch Conwy" a "Gwynedd Is Conwy", gydag Afon Conwy fel ffin rhwng y ddau.
Mae traddodiad fod Cunedda Wledig a'i feibion wedi ymfudo i ogledd-orllewin Cymru o'r Hen Ogledd, rhan deheuol Yr Alban yn awr, ac wedi sefydlu teyrnas Gwynedd. Yr hen enw mewn Lladin oedd Venedotia. Mae carreg fedd o ddiwedd y bumed ganrif yn eglwys Penmachno sy'n taflu goleuni diddorol ar hyn. Mae'n coffhau gwr o'r enw Cantiorix, a ddisgrifir yn yr arysgrif Ladin fel "Cantiorix hic iacit/Venedotis cives fuit/consobrinos Magli magistrati", neu mewn Cymraeg "Yma y gorwedd Cantiorix. Roedd yn ddinesydd o Wynedd ac yn gefnder i Maglos yr ynad". Mae'r cyfeiriadau at "ddinesydd" a "magistratus" yn awgrymu parhad y drefn Rufeinig yng Ngwynedd am gyfnod ar ôl i'r llengoedd adael.
Deganwy oedd safle prif lys Gwynedd yn oes Maelgwn Gwynedd, ond yn nes ymlaen symudodd y prif lys i Aberffraw a disgrifir rheolwr Gwynedd fel "Tywysog Aberffraw" neu "Arglwydd Aberffraw".
Yn dilyn marwolaeth Llywelyn ap Gruffydd ym 1282 a dienyddiad ei frawd Dafydd ap Gruffydd y flyddyn ganlynol, daeth teyrnas Gwynedd i ben. Ceisiodd Owain Lawgoch hawlio teyrnas Gwynedd a Chymru yn 1372 a 1377, ac yr oedd Owain Glyndwr gysylltiadau teuluol a thywysogion Gwynedd hefyd.
This article is licensed under the GNU Free Documentation License.
It uses material from the
"Teyrnas Gwynedd".
Home Page • arts • business • computers • games • health • hospitals • home • kids & teens • news • physicians • recreation• reference • regional • science • shopping • society • sports • world