article

Gall Scandinafia gyfeirio naill ai at benrhyn Scandinafia, sef y gorynys o gyfandir Ewrop sy'n cynnwys mwyafrif tiroedd Norwy a Sweden, neu'r rhanbarth o Ewrop sy'n cynnwys penrhyn Scandinafia ynghyd â phenrhyn Jutland. O ganlyniad, i fod yn fanwl gywir, dim ond Norwy, Sweden a Denmarc sy'n wledydd Scandinafaidd.

Serch hyn, fe gyfeirir at y gwledydd Nordaidd fel Scandinafia yn aml iawn. Mae'r gwledydd Nordaidd yn cynnwys Norwy, Sweden, Denmarc, Gwlad yr Iâ, y Ffindir ynghyd â'u holl drefedigaethau. Weithiau, fe gynhwysir y gwledydd Baltaidd, yn enwedig Estonia, yn y diffiniad ehangach yma o Scandinafia, o ganlyniad i gysylltiadau ieithyddol a diwylliannol rhwng y Ffindir ac Estonia.

Nid yw llawer o drigolion Norwy, Sweden a Denmarc yn cytuno gydag unrhyw ddiffiniad o Scandinafia heblaw am yr un cyfyng sy'n cyfeirio at y tri gwlad yn unig.

Skandinavien | Скандинавия | Skandinavia | Skandinavija | Escandinàvia | Skandinávie | Skandinavien | Skandinavien | Scandinavia | Skandinavio | Escandinavia | Skandinaavia | اسکاندیناوی | Skandinavia | Skandinavia | Scandinavie | Críoch Lochlann | Escandinavia | סקנדינביה | Skandinavija | Skandinávia | Scandinavia | Skandinavia | Skandinavia | Skandinavía | Scandinavia | スカンディナヴィア | 스칸디나비아 | Scandinavia | Skandinavien | Skandinavija | Skandinavien | Scandinavië | Scandinavië | Skandinavia | Skandinavia | Skandynawia | Escandinávia | Scandinavia | Скандинавия | Scandinavia | Skandinavija | Scandinavia | Skandinavija | Скандинавија | Skandinavien | İskandinavya | Scandinavia | 斯堪的纳维亚 | Skandinavia

 

This article is licensed under the GNU Free Documentation License. It uses material from the "Scandinafia".

Home Pageartsbusinesscomputersgameshealthhospitalshomekids & teensnewsphysiciansrecreationreferenceregionalscienceshoppingsocietysportsworld