article Related Topics:
Sahara_-_1943 :: Sahara_-_2005 :: Saharanpur :: Saharan_Dust
 

Sahara.jpg

Y Sahara yw'r anialwch/diffeithiwch mwyaf yn y byd. Mae'n cyfateb i faint yr Unol Daleithiau, yn ymestyn rhyw 5000 km ar draws gogledd Affrica o'r Môr Iwerydd yn y gorllewin i'r Môr Coch yn y dwyrain. Does ond ychydig o fywyd yn y diffeithiwch ei hunan a cheir y rhan fwyaf o'r bywyd sydd ynddo yn yr ardal a elwir Sahel sef yr ardal sydd yn ymestyn ar draws y cyfandir ar ochr ddeheuol y Sahara ac hefyd ar y rhimyn gogleddol. Fel y teithir fwy fwy i'r de fe wna'r coed, y llwyni a bywyd yn gyffredinol amlhau.

Nid tywod yn unig yw'r Sahara. Mae rhannau enfawr yn cael ei orchuddio gan raean garw, gyda llawer o'r graig a'r cerrig yn dod o'r lafa a ddaeth unwaith o'r mynyddoedd tân.

Mae tymheredd dros 45 gradd yn gyffredin, ac fe recordiwyd tymheredd o 58 gradd yn y cysgod yn Aziza yn Libia, ond yn y nos gan nad oes cymylau i gadw'r gwres i lawr, mae'n gallu bod yn ddychrynllyd o oer.

Ond ar waethaf yr hinsawdd creulon mae rhai anifeiliaid a phlanhigion wedi addasu i fyw yno.

Disierto d'o Sajara | Сахара | Sàhara | Sahara | Sahara | Sahara | Sahara | Saharo | Desierto del Sahara | Sahara | Désert du Sahara | An Sahára | Deserto do Sáhara | 사하라 사막 | Sahara | Sahara | Sahara | Deserto del Sahara | מדבר סהרה | Sahāras tuksnesis | Sachara | Сахара | Sahara | サハラ砂漠 | Sahara | Sahara | Deserto do Saara | Пустыня Сахара | Sahara Desert | Sahara | Сахара | Sahara | Sahara | சஹாரா | ทะเลทรายซาฮารา | Sara | 撒哈拉沙漠

 

This article is licensed under the GNU Free Documentation License. It uses material from the "Sahara".

Home Pageartsbusinesscomputersgameshealthhospitalshomekids & teensnewsphysiciansrecreationreferenceregionalscienceshoppingsocietysportsworld