Prif Ddinas yr Eidal yw Roma neu Rhufain (Roma yn Eidaleg a Lladin). Mae ar lannau'r Afon Tiber ger lan y Môr Canoldir. Lleolir Dinas y Fatican, sef sedd y Pab a'r Eglwys Catholig Rhufeinig mewn clofan yn y ddinas.
Yn ystod ei hanes hir roedd Rhufain yn brifddinas ar y Deyrnas Rhufeinig, y Weriniaeth Rhufeinig a'r Ymerodraeth Rhufeinig.
Yn ôl y chwedl sefydlwyd y dref gan Romulus, un o'r brodyr Romulus a Remus ar 21 Ebrill, 753 C.C., a laddodd Romulus ei frawd yn hwyrach. Y dyddiad hon yw sylfaen calendr Rhufeinig a chalendr Julius (Ab urbe condita). Roedd Romulus a Remus yn blant i'r duw Mawrth a chawsant eu magu gan fleiddes (Yn Eidaleg, La Lupa Capitolina).
Sefydlwyd Rhufain ar Fryn y Haul (sef Bryn Palatîn) ac ehangwyd i gynnwys y Saith Bryniau Rhufain: Bryn Palatîn, Bryn Aventîn, Bryn Capitolîn, Bryn Quirinal, Bryn Viminal, Bryn Esquilîn a Bryn Caelian. Enwyd y rheini ar ôl y lleuad, Mercher, Gwener, Mawrth, Iau a Sadwrn.
Mae amffitheatr y Colosseum a theml y Pantheon ymhlith adeiladau enwocaf y ddinas. Daw y Circus Maximus a'r Domus Aurea, plasdy'r ymerawdwr Nero, hefyd o gyfnod yr Ymerodraeth.
Mae nifer o symbolau o ddinas Rhufain, gan gynnwys yr Eryr Ymerawdurol, Y Fleiddes Capitolinaidd a'r llythrennau SPQR, sydd yn sefyll am senatus populusque Romanus (senedd a phobl Rhufain), a welir ledled y ddinas hyd heddiw.
Rom | Roma | روما | Roma | Рым | Рим | Roma | Rim | Roma | Řím | Рим | Rom | Rom | Ρώμη | Rome | Romo | Roma | Rooma | Erroma | رم | Rooma | Rome | Rome | An Róimh | An Ròimh | Roma | 𐍂𐌿𐌼𐌰 | רומא | रोम | Rim | Róma | Roma | Roma | Roma | Róm | Roma | ローマ | რომი | 로마 | Rom | Roma | Roum | Roeme | Roma | Roma | Рим | रोम | Rom (nyahkekaburan) | Romma | Rom | Rome (stad) | Roma | Roma | Rome | Рим | Rzym | Roma | Roma | Roma | Roma | Рим | Roma | Roma | Rim | Rome | Rím | Rim | Roma | Рим | Rom | Mji wa Roma | โรม | Lungsod ng Roma | Roma | رىم | Рим | Roma | 罗马市 | Lô-má