Y renminbi (Tsieinëeg traddodiadol: 人民幣, Tsieinëeg wedi symleiddio: 人民币, yn golygu "arian y bobl") yw arian swyddogol Gweriniaeth Pobl Tsieina. Banc Pobl Tsieina sy'n cyhoeddi'r arian. Y talfyriad swyddogol ISO 4217 amdano yw CNY.
Mae un yuan yn cynnwys 10 jiao (角). Mae 1 jiao yn cynnwys 10 fen (分). Cyhoeddir arian papur o wahanol werthoedd, y mwyaf yn werth 100 yuan a'r lleiaf yn werth 1 fen.
Yn Tsieinëeg Mandarin, gelwir yr yuan hefyd yn kuai (块) ar lafar, mewn rhai ardaloedd. Yr un modd gelwir y jiao yn mao (毛) ar lafar.
Yng Ngweriniaeth Pobl Tseina wrth ysgrifennu prisiau mewn siopau fe roddir yr arwyddnod ¥ o flaen y rhif yn aml, yn ogystal â'r arwyddnod 元 wedi'r rhif.
Peth diddorol i sylw yw bod pob gwerth -- o'r lleiaf, 1 fen, i'r mwyaf, 100 yuan -- ar gael fel arian papur. Erbyn hyn mae'r papurau fen bron yn ddiwerth. Maent yn llai o faint na phapur y gwerthoedd eraill ac nid yw cynllun yr arian papur fen wedi newid er 1953.
Hefyd cyhoeddwyd darnau arian newydd:
Mae'r papurau newydd wedi eu cynllunio i rwystro ffugio. Mae ganddynt ddyfrnodau, maent yn fflwroleuo mewn golau uwchfioled ac mae stribed o fetel ynddynt oll heblaw am y papur ¥1. Mae gan y papur gwerth ¥50 a ¥100 rifau sy'n newid eu lliw wrth edrych arnynt o wahanol onglau. Lle ynghynt y cafwyd amrywiaeth o ddelweddau o ŵr a gwraig mewn gwisg draddodiadol yn perthyn i wahanol ardaloedd o Tseina, delwedd unffurf o Mao Zedong a ymddengis ar bob papur gaiff ei gyhoeddi yn y 5ed gyfres. Y papur diweddaraf i gael ei gyhoeddi yn argraffiad cyntaf y bumed gyfres yw'r papur CNY 1, a gyhoeddwyd ar 30 Gorffennaf 2004. Defnyddiwyd nifer o ffyrdd ychwanegol o ddiogelu'r arian papur yn y papur CNY ac fe ail-gyhoeddwyd y papurau eraill a rhagor fyth o nodweddion diogelu ynddynt, gan ddechrau ail-gyhoeddi ar 31 Awst 2005.
Mae'r 4ydd gyfres, a gyhoeddwyd yn 1980 a 1990, o hyd yn arian cyfreithlon. Yn 2000, galwodd Banc Pobl Tsieina hen bapurau'r 3ydd gyfres o'r 1960au a 1970au yn eu hôl.
Renminbi | Renminbi | Renminbi | Renminbi | Renminbi | Renminbi | Renminbi | Renminbi | Renminbi | Renminbi | Renminbi | Renminbi | 人民元 | 렌민비 | Renminbi | Renminbi | Renminbi | Kinesisk renminbi | Kinesisk renminbi | Renminbi | Renminbi | Renminbi | Renminbi | เหรินหมินปี้ | 人民币
This article is licensed under the GNU Free Documentation License.
It uses material from the
"Renminbi".
Home Page • arts • business • computers • games • health • hospitals • home • kids & teens • news • physicians • recreation• reference • regional • science • shopping • society • sports • world