| Arwyddair | Gair Duw Goreu Dysg |
|---|---|
| Sefydlu | 1822 |
| Canghellor (PC) | Tywysog Cymru |
| Dirprwy Ganghellor (PC) | Dafydd Wigley |
| Is-Ganghellor | yr Athro Robert A Pearce |
| Lleoliad | Llanbedr Pont Steffan, Cymru, DU |
| Myfyrwyr | 2,000 |
| Aelod | Prifysgol Cymru |
| Hafan | www.lamp.ac.uk |
Pan benodwyd Thomas Burgess yn Esgob Tyddewi ym 1803 teimlodd angen mawr i sefydlu Coleg lle y gallai dynion ifanc hyfforddi ar gyfer yr offeiriadaeth.
Nid oedd gan Burgess unrhyw gysylltiadau Cymreig; fe'i ganed yn Lloegr ym 1756 ac ar ôl treulio amser yng Nghaerwynt a Rhydychen arhosodd am gyfnodau byr yn Salisbury a Durham cyn cael ei benodi i'w esgobaeth gyntaf yng Nghymru ym 1803. Gadawodd ym 1825 i fod yn Esgob Salisbury a bu farw ym 1837. Yn wreiddiol bwriad Burgess oedd adeiladu ei goleg newydd i hyfforddi offeiriaid yn Llanddewi Brefi (oedd ar y pryd yn debyg o ran maint i Lanbedr Pont Steffan, deg cilomedr i ffwrdd ac yn fan pwysig yn hanes Cristnogaeth yng Nghymru), ond pan oedd Burgess yn aros gyda'i gyfaill Esgob Caerloyw ym 1820 cyfarfu â John Scandrett Harford, dyn cyfoethog a thirfeddiannwr mawr yn ardal Llanbedr Pont Steffan. Rhoddodd Harford safle tair erw i Burgess, sef Maes y Castell (safle'r brifysgol heddiw).
Fel hyn, Sefydlwyd Coleg Dewi Sant ym 1822 a derbyniwyd y myfyrwyr cyntaf ar Wyl Ddewi 1827. Derbyniodd ei siartr cyntaf ym 1828. Am dros ganrif yr oedd yn goleg gradd annibynnol, yn cynnig amrywiaeth o gyrsiau, ond gan gadw cyswllt agos â'r eglwys. Yn y 1960au tyfodd cysylltiadau â Prifysgol Cymru ac yn sgil hynny daeth yn gymwys i dderbyn cymorth llawn gan y Trysorlys. Ym 1971 daeth yn sefydliad cyfansoddol o Brifysgol Cymru a'i alw'n Goleg Prifysgol Dewi Sant. Ym 1996 mewn ymateb i ddeiseb o'r Brifysgol - newidiwyd y teitl gan y Cyfrin Gyngor i Brifysgol Cymru, Llanbedr Pont Steffan yn unol â datblygiadau o fewn y brifysgol ei hun ac er mwyn cydnabod twf a newid yn statws y sefydliad.
Heddiw mae Llanbedr Pont Steffan yn un o'r deg Sefydliad Cyfansoddol sy'n ffurfio Prifysgol Ffederal Cymru sydd, ar ôl Prifysgol Llundain, gyda'r mwyaf yn y Deyrnas Gyfunol.
Yr Hen Neuadd sef y ffreutur tan agor y ffreutur bresennol - ym 1969 - ac ni bu llawer o ddefnydd ohoni tan 1991 pan gafodd ei hadnewyddu a'i hailagor; erbyn hyn mae'r neuadd yn cael ei defnyddio fel un o'r prif ystafelloedd cyhoeddus ar gyfer cynnal cyfarfodydd, cynadleddau ac i'w defnyddio gan gyrff allanol.
Adnewyddwyd Capel Dewi Sant yn ystod y 1930au yn bennaf trwy ddarparu reredos newydd ym 1933 ac atgyweirio sylweddol ar yr organ ym 1934.
Llyfrgell Y Sylfaenwyr oedd llyfrgell y coleg hyd at agor y llyfrgell newydd ym 1966 ac erbyn hyn mae'n diogelu casgliad o tua 20,000 o lyfrau a chyfnodolion a argraffwyd rhwng 1470 a 1850. Mae'r casgliad yma yn hollol unigryw i Lanbedr Pont Steffan.
Y llyfrgell newydd a agorwyd gan Ddug Caeredin, Canghellor o'r Brifysgol Cymru, ym 1966.
Adeilad y Celfyddydau a agorwyd gan Peter Thomas, Ysgrifennydd Gwladol Cymru, ym 1971, ar yr un pryd.o'r agoriad Adran Daearyddiaeth newydd.
Theatr Cliff Tucker a agorwyd gan Syr Anthony Hopkins ym 1995.
Adeilad Sheikh Kalifa (yr Adran Ddiwinyddiaeth newydd) a agorodd yn Ffordd y Coleg yn Hydref 1997.
Hip Hip Hooray
Hip Hip Hooray
Hip Hip Hooray
Nawr Dewi. Nawr Dewi. Nawr Dewi.
Dy Blant. Dy Blant. Dy Blant.
Backshe Odinthorog. Backshe Odinthorog.
Niri Giri Wari. Niri Giri Wari.
Zey Zey Zey
Bing Bang Odin. Bing Bang Odin.
Io Dewi. Io Dewi. Io Dewi.
Dewi Sant. Dewi Sant. Dewi Sant.
Hooray!
University of Wales, Lampeter | University of Wales, Lampeter | Prifysgolion | Prifysgol Cymru
This article is licensed under the GNU Free Documentation License.
It uses material from the
"Prifysgol Cymru, Llanbedr Pont Steffan".
Home Page • arts • business • computers • games • health • hospitals • home • kids & teens • news • physicians • recreation• reference • regional • science • shopping • society • sports • world