Logo Plaid Cymru 2006.gif Mae Plaid Cymru yn blaid wleidyddol sosialaidd a Chymreig sydd yn galw am hunan-lywodraeth i Gymru.
Yn draddodiadol y mae Plaid wedi bod gryfaf yn y Gymru Gymraeg yn y gorllewin a'r gogledd. Enillodd ei sedd seneddol gyntaf mewn is-etholiad ar y 14eg o Orffennaf 1966 pan enillodd Gwynfor Evans, llywydd y blaid ar y pryd. Methodd gadw y sedd yn etholiad 1970. Collodd o 3 pleidlais yn Etholiad Cyffredinol gwanwyn 1974 ond fe enillodd y sedd yn Etholiad Cyffredinol Hydref 1974. Collodd y sedd wedyn yn 1979.
Bu'r blaid yn agos iawn i ennill is-etholiadau seneddol yn Y Rhondda a Chaerfilli ddiwedd y 60au, ac roedd yn rheoli Cyngor Merthyr am gyfnod.
Enillodd Dafydd Wigley Etholaeth Arfon a Dafydd Elis Thomas Etholaeth Meirionnydd yn etholiad gwanwyn 1974, ac yn eu tro daeth y ddau yn llywydd i'r blaid.
Yn Etholiad Cyffredinol 1987 enillodd Ieuan Wyn Jones Ynys Môn i'r Blaid ac yna yn Etholiad Cyffredinol 1992 enillwyd Etholaeth Sir Aberteifi a Gogledd Penfro gan Cynog Dafis.
Yn etholiad y Cynulliad Cenedlaethol ym 1999, enillodd y blaid dir enfawr, gan gipio etholaethau nad oedd wedi ennill erioed o'r blaen -- Conwy, Llanelli, Y Rhondda ac Islwyn hyd yn oed. Roedd hefyd yn rheoli cynghorau lleol unedig Gwynedd, Caerffili a Rhondda Cynon Taf. Plaid Cymru oedd y brif wrthblaid yn nhymor cyntaf Cynulliad Cenedlaethol Cymru gyda 17 sedd.
Collwyd Etholaeth Ynys Môn yn etholiad San Steffan 2001 ond fe enillwyd Dwyrain Caerfyrddin a Dinefwr gan Adam Price.
Yr oedd pobl fel Emrys ap Iwan a Michael D. Jones wedi galw am hunanlywodraeth i Gymru yn y 19eg Ganrif, ac roedd y Blaid Lafur yn frwd iawn dros hunanlywodraeth i Gymru tan 1918 ond fe bylodd y brwdfrydedd erbyn y dauddegau. O ganlyniad fe sefydlwyd "Y Blaid Genedlaethol", sef enw gwreiddiol Plaid Cymru, ym 1925.Rhai o'r sylfaenwyr oedd Saunders Lewis Lewis Valentine ac H R Jones.
Y prif amcanion oedd cael hunanlywodraeth yn null dominiwn i Gymru, amddiffyn y Gymraeg, a chael sedd i Gymru yng Nghynghrair y Cenedloedd.
Yn 1945 daeth Gwynfor Evans yn arweinydd. Erbyn 1959 llwyddodd y Blaid i ymladd ugain o seddi a chael 77,571 o bleidleisiau yn yr Etholiad Cyffredinol
Yn dilyn helynt boddi Cwm Tryweryn gan Gorfforaeth Lerpwl er bod pob aelod seneddol o Gymru yn erbyn daeth mwy o gefnogaeth i Blaid Cymru.
Plaid Cymru | Plaid Cymru | Plaid Cymru | Plaid Cymru | Plaid Cymru | Plaid Cymru
This article is licensed under the GNU Free Documentation License.
It uses material from the
"Plaid Cymru".
Home Page • arts • business • computers • games • health • hospitals • home • kids & teens • news • physicians • recreation• reference • regional • science • shopping • society • sports • world