article Related Topics:
Patagonia :: Patagonian
 

Llyn Espejo, Patagonia.jpg

Rhanbarth daearyddol yn Ne America yw Patagonia sy'n ymestyn o Chile ar draws yr Andes i'r Ariannin. Ar ochr Chile o'r Andes fe ymestyn Patagonia i'r de o ledred 42°D, gan gynnwys rhan ddeheuol rhanbarth politicaidd Los Lagos a rhanbarthau Aysen a Magallanes (heblaw am y rhan o Antartica a hawlir gan Chile). Ar ochr yr Ariannin o'r Andes fe ymestyn Patagonia i'r de o afonydd Neuquén a Río Colorado, gan gynnwys y taleithiau Neuquén, Río Negro, Chubut, Santa Cruz, Tierra del Fuego, a rhan ddeheuol Talaith Buenos Aires. Deillia'r enw Patagonia o Batagones, sef enw'r bobl gyntaf i gyrraedd yr ardal rhyw 10,000 o flynyddoedd yn ôl.

Yn yr Ariannin, mae Patagonia wedi ei rhannu yn bedair talaith:

  1. Nequen: 94,078 km², rhwng yr afonydd Nequen a Limay, yn ymestyn tua'r de hyd at lan gogleddol Llyn Nahuel-Huapi, a thua'r gogledd hyd at y Rio Colorado.
  2. Rio Negro: 203,013 km², rhwng Môr yr Iwerydd a'r Andes, rhwng Nequen a lledred 42° De.
  3. Chubut: 224,686 km², rhwng 42° a 46° De.
  4. Santa Cruz: 243,943 km², rhwng Chubut a ffîn Tsili.

Yng nghanol y bedwaredd ganrif ar bymtheg, rhwng 1865 a 1912, cyrhaeddodd minteioedd o Gymry er mwyn sefydlu gwladfa ym Mhatagonia yr Ariannin. Y Wladfa oedd enw'r Cymry hynny ar yr ardal honno.

Erys rhai siaradwyr Cymraeg yn nhalaith Chubut hyd heddiw. Er mwyn cynnal y Gymraeg yn Chubut mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn anfon athrawon o Gymru at yr ysgolion Cymraeg yno.

Sbaeneg yw prif iaith ac iaith swyddogol yr Ariannin.

De America

Патагония | Patagònia | Patagonien | Patagonia | Patagonio | Patagonia | Patagonie | פטגוניה | Patagonija | Patagonia | パタゴニア | Patagonija | Patagonië | Patagonia | Patagonia | Patagónia | Патагония | Патагонија | Patagonien | Patagonya | 巴塔哥尼亞

 

This article is licensed under the GNU Free Documentation License. It uses material from the "Patagonia".

Home Pageartsbusinesscomputersgameshealthhospitalshomekids & teensnewsphysiciansrecreationreferenceregionalscienceshoppingsocietysportsworld