Prif ddinas a dinas fwyaf Ffrainc yw Paris. Mae hi ar ddolen yr afon Seine, ac felly wedi ei rhannu yn ddwy: y glan dde i'r gogledd a'r ar lan chwith llai i'r de o'r afon. Mae'r afon yn enwog am ei quais (llwybrau gyda choed ar hyd y glannau, y bythod llyfrau awyr agored a'r hen bontydd dros yr afon. Mae'n enwog hefyd am ei rhodfeydd, er enghraifft y Champs-Élysées, a llu o adeiladau hanesyddol eraill.
Mae tua 2 filiwn o bobl yn byw yn y ddinas (1999: 2,147,857 o drigolion) ond mae tua 11 miliwn o bobl yn byw yn Ardal y Brif Ddinas (aire urbaine de Paris yn Ffrangeg; 1999: 11,174,743 o drigolion).
Cychwynodd hanes y dref ar ynys o'r enw Île de la Cité yn yr afon Seine. Heddiw mae'r Palais de Justice a'r eglwys gadeirol Notre-Dame de Paris ar yr ynys hon. Gyferbyn â'r Île de la Cité mae ynys arall, yr Île Saint-Louis, sy ddim mor fawr. Ar honno, mae tai cain a adeiladwyd yn ystod y ail ganrif ar bymtheg a'r deunawfed ganrif.
Cyn i'r Ymerodraeth Rufeinig gyrraedd ym 52 C.C. roedd llwyth Galaidd yn byw yno. Roedd y Rhufeinwyr yn ei galw nhw yn "Parisii" er eu bod nhw eu hunain yn galw'r dref yn Lutetia, sef "lle corsog". Tua 50 o flynyddoedd ar ôl hyn datblygodd rhan newydd o'r dref ar ochr chwith i'r afon (y Quartier Latin heddiw) a newidwyd enw'r dref i "Baris".
Daeth rheolaeth Rhufain ym Mharis i ben ym 508 pan dyfododd y dref yn brif ddinas y Merofingaidd o dan Clovis I. Achos fod y Llychlynwyr yn goresgyn yr ardal ym wythfed ganrif rhoedd rhaid adeiladu caer ar ynys yr afon Seine. Beth bynnag, daeth y Llychlynwyr (efallai o dan Ragnar Lodbrok) i Baris i fediannu'r dref ar 28 Mawrth, 845. Er mwyn iddyn nhw gadael, roedd rhaid gasglu pridwerth mawr iawn.
Roedd maint y Ieirll Paris yn cynnydd oherwydd doedd y brenhinoedd Carolingaidd hwyr ddim yn ddigon crif. O'r , etholwyd Odo, Iarll Paris i fod yn frenin Ffrainc er fod Siarl III yn brenin iawn. Ar ôl bu'r Carolingiad olaf yn farw, etholwyd Huw Capet, Iarll Paris, i fod yn frenin Ffrainc (987).
Yn ystod yr unfed ganrif ar ddeg adeiladwyd rhan newydd y dref ar lan de yr afon ac yn ystod y deuddegfed ganrif a trydedd ganrif ar ddeg sydd yn cynnwys rheoliad Philippe II Augustus (1180-1223) roedd y tref yn tyfu yn braf. Yn ystod yr adeg hon adeiladwyd caer, y Louvre cyntaf, a nifer o eglwysydd gan gynnwys er eglwys gadeiriol Notre-Dame. Nifer o ysgolion ar lan chwith yr afon daeth i fod yn brifysgol o'r enw Sorbonne. Roedd Albertus Magnus a St. Thomas Aquinas ymhlith ei myfyrwyr cynnar. Yn ystod y Canol Oesoedd roedd Paris yn dinas masnach a ddeallusol pwysig iawn, er daeth y Pla i'r dref ym pedwaredd ganrif ar ddeg. O dan reolaeth Louis XIV, Brenin yr Haul, sy oedd yn parhau o 1643 i 1715 symudwyd y llys brenhinol o Baris i Versailles a oedd yn dref gyfagos.
Dechreuodd y Chwyldro Ffrengig gan ymosod ar Bastille ar 14 Gorffennaf, 1789. A roedd croestyniadau niferus rhwng Paris a'r ardal o gwmpas y dref yn parhau am flynyddoedd ar ôl hynny.
Roedd y Rhyfel rhwng Ffrainc a Prwsia yn gorffen gan gwarchae Paris ym 1870. Ildioss Paris ym 1871 ar ôl treulio gaeaf gan newyn a tywallt gwaed. Ar ôl hynny dechreuodd cyfnod cyfoethog arall, La Belle Époque (y Cyfnod Ardderchog). Yn ystod y cyfnod hon adeiladwyr y Tŵr Eiffel ym 1889, yr adeilad mwyaf enwog y dref.
Roedd Paris o dan reolaeth yr Almaen yn ystod yr Ail Ryfel Byd, ond rhyddhauwyd ym mis Awst 1944 ar ôl brwydr y Normandy.
Parys | Paris (Stadt) | París | París | Париж | París | Paříž | Paris | Paris | Pariis | Παρίσι | Paris | París | Parizo | Paris | Páras | París - Paris | 파리 시 | Paris | Paris | Parigi | פריז | ಪ್ಯಾರಿಸ್ | პარიზი | Lutetia | Parīze | Paräis | Paryžius | Paries | Paris | Parijs | パリ | Paris | Paris | París | Paris | Paryż | Paris | Paris | Париж | Paris | Pariz | Париз | Pariisi | Paris | பாரிஸ் | ปารีส | Paris | Paris | Париж | 巴黎