Yn ddisgynnydd o dywysogion Powys, Owain Glyndwr neu Owain ap Gruffudd (~1354 - ~1416) oedd y Cymro olaf i gael ei alw yn Dywysog Cymru.
Sycharth, ger Glyndyfrdwy, Corwen oedd ei etifeddiaeth; trwy ei fam roedd e'n hawlio tiroedd Rhys ap Gruffydd, (yr Arglwydd Rhys). Astudiodd y gyfraith yn Llundain, a gwasanaethodd gyda lluoedd Henry Bolingbroke, gwrthwynebwr y Brenin Rhisiart II o Loegr, ac a ddaeth yn darach yn Brenin Harri IV o Loegr.
Fe sylweddolodd fod gormes Lloegr yn difa'r economi Gymreig ac yn sbarduno atgasedd at y Saeson.
Ym mis Medi 1400, flwyddyn ar ol i Harri gymryd yr orsedd, dechreuodd ffrae rhwng Glyndwr a'i gymydog Reynold, Arglwydd Grey o Ruthun a ddatblygodd yn gyflym i fod yn wrthryfel dros annibyniaeth Cymru. Ar Ddydd Gwyl Mathew (23 Medi 1400) llosgodd Glyndŵr tref Rhuthun i gyd, ond am y castell. Priododd â Margaret Hanmer a oedd yn ferch i Syr David Hanmer, teulu a oedd yn garedig i'r boblogaeth leol ac fe fu Owain yn dilyn bywyd tawel heddychlon.
Ffurfiodd gynghrair strategol gyda gwrthwynebwyr mwyaf nerthol Harri. Carcharodd Edmund Mortimer, ewythr y 5ed Iarll March (Sir Gaergrawnt), a oedd yn hawlio gorsedd Lloegr, ym 1402.
Fe'i ganwyd i deulu cefnog yng Ngogledd-Ddwyrain Cymru. Roedd ei dad Gruffydd Fychan yn etifedd i Tywysog Powys Fadog a bu fawr rhywbryd cyn 1370 gan adael ei fam Elen ferch Tomos ap Llywelyn o Deheubarth yn weddw. mae'n debyg i Owain dreulio rhywfaint o'i blentyndod yng nghartref David Hanmer. Bu yn Llundain yn astudio'r gyfraith am rai blynyddoedd. Mae;n bur debyg ei fod yn Llundain adeg Gwrthryfel y Werin yn 1381
Owain Glyndwr | Owain Glyndŵr | Owain Glyndŵr | Owain Glyndwr | Owen Glendower | Owain Glyndwr | Owen Glendower | Owain Glyndŵr
This article is licensed under the GNU Free Documentation License.
It uses material from the
"Owain Glyndwr".
Home Page • arts • business • computers • games • health • hospitals • home • kids & teens • news • physicians • recreation• reference • regional • science • shopping • society • sports • world