article

Smotyn_Coch.gif
Merthyr Tudful
Merthyr Tudful

Tref bwrdeistrefol sirol yw Merthyr Tudful. Mae ganddi boblogaeth o dua 55,000.

Mae etholaeth Merthyr Tudful a Rhymni yn ethol aelod i'r Cynulliad ac i Senedd Sansteffan. Mae'r etholaeth hefyd yn rhan o Ranbarth Dwyrain de Cymru ar gyfer ethol aelodau rhanbarthol y Cynulliad.

Roedd yn ardal amaethyddol tan tua diwedd y ddeunawfed ganrif. Erbyn 1801 roedd y boblogaeth dros 7,000 ac yn 30,000 yn 1831, i'w gwneud y dref fwyaf yng Nghymru. Roedd y boblogaeth yn tyfu'n nghynt yn Merthyr nag yn unrhyw dref arall yng Nghymru

Erbyn diwedd y ddeunawfed ganrif roedd gwaith haearn yn ofnadwy o bwysig yng Nghymru ac roedd pedwar gwaith haearn pwysig yn Merthyr: sef Gwaith Haearn Cyfarthfa, Gwaith Haearn Dowlais, Gwaith Haearn Penydarren a Gwaith Haearn Plymouth.

Adeiladodd y Rhufeiniaid gaer yn yr ardal ym Mhenydarren a'r Normaniaid gastell yn Morlais.

Yn 1690 gwnaeth yr Anghydffurfwyr adeiladu capel yng Nghwm-y-Glo, a'r Undodwyr un yng Nghefn Coed yn 1747. Pan ddaeth y fewnllifiad o bobl yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg ymuno â'r anghydffurfwyr y gwnaeth y rhan fwyaf o'r boblogaeth. Y meistri tir a'r diwydianwyr cyfoethog oedd yn perthyn i'r Eglwys Anglicanaidd.

Enwogion o Ferthyr Tudful

Ardaloedd

  • Caedraw
  • Cyfarthfa
  • Galon Uchaf
  • Georgetown
  • Gellideg
  • Y Gyrnos
  • Heolgerrig
  • Maerdy
  • Pantysgallog
  • Penydarren
  • Penyard
  • Pontmorlais
  • Rhydycar
  • Twyncarmel
  • Twynyrodyn
  • Ynysfach

Eglwysi

  • Capel Stryd Fawr y Bedyddwyr
  • Eglwys Santes Tudful, Caedraw
  • Eglwys Dewi Sant, Stryd Uchaf
  • Eglwys Ffynon Santes Tudful, Y Chwarel (The Quar yn Saesneg)
  • Eglwys Babyddol y Santes Fair, Pontmorlais

Eisteddfod Genedlaethol


Cynhaliwyd Eisteddfod Genedlaethol ym Merthyr Tudful ym 1881 a 1901. Am wybodaeth bellach gweler:

Cysylltiadau allanol


Merthyr Tydfil | Merthyr Tydfil | Merthyr Tydfil | Merthyr Tydfil | Merthyr Tydfil | Мертир Тидвил | Merthyr Tydfil

 

This article is licensed under the GNU Free Documentation License. It uses material from the "Merthyr Tudful".

Home Pageartsbusinesscomputersgameshealthhospitalshomekids & teensnewsphysiciansrecreationreferenceregionalscienceshoppingsocietysportsworld