Yn fras, mathemateg a hynan-symbylir, heb ystyried cymwysiadau, yw mathemateg bur. Fe'i adnabyddir fel cangen o fathemateg ers y 18fed canrif, pryd sylweddolwyd ei fod yn wahanol i'r fathemateg gymwysiedig a oedd yn datblygu i gyrhaedd dibenion morwriaeth, seryddiaeth, ffiseg, peirianneg a.y.b.. I gychwyn, ni wahaniaethwyd rhyw lawer rhwng y gwahanol fathau o fathemateg, ond fe ddatblygodd mathemateg bur fel maes annibynnol yn ystod y 19fed canrif, yn nodweddiadol felly yn ngwaith Weierstrass arddadansoddi.
Ar ddechrau'r 20fed canrif, fe fabwysiadodd mathemategwyr y dull gwirebol, dan ddylanwad David Hilbert ac eraill. Fe ddaeth hyn i edrych yn fwyfwy rhesymol, wrth i waith Bertrand Russell ac Alfred North Whitehead gosod llawer o fathemateg ar y sylfaen hwn.
Pura matematiko | Pure mathematics | ریاضیات محض | 純粋数学 | 純數學
This article is licensed under the GNU Free Documentation License.
It uses material from the
"Mathemateg bur".
Home Page • arts • business • computers • games • health • hospitals • home • kids & teens • news • physicians • recreation• reference • regional • science • shopping • society • sports • world