Casgliad o bedair stori yn seiliedig ar y traddodiad llafar Cymreig yw'r Mabinogi. Oherwydd i'r Arglwyddes Charlotte Guest gamddeall y gair 'mabynogyon' yn un o'r llawysgrif fe ddefnyddir y gair Mabinogion ers iddi hi gyhoeddi ei chyfieithiad Saesneg o Bedair Cainc y Mabinogi ond hefyd am nifer eraill o chwedlau llafar sydd yn rhannol a rhyw sylfaen hanesyddol o'r canol oesoedd iddyn nhw ond hefyd mae elfennau cynharach yn perthyn iddynt hefyd.
Gwnaed y ffilm cartŵn Y Mabinogi (90 munud; cyfarwyddwr: Derec Hayes) ym 2002.
Gwelir y chwedlau mewn dwy lawysgrif canoloesoedd, sef Llyfr Gwyn Rhydderch a ysgrifenwyd rywbryd rhwng 1300 - 1325 Oed Crist, a Llyfr Coch Hergest a ysgrifenwyd rywbryd rhwng 1375 a 1425.
Pedair Cainc y Mabinogi yw:
Cyfieithodd a chyhoeddodd yr Aglwyddes Guest saith chwedl arall yn ei chasglaid. Mae pedair chwedl yn adradd deunydd o chwedloniaeth a thraddodiad Cymreig, sef:
Gan fod Culhwch ac Olwen a Breuddwyd Rhonabwy wedi cadw olion henach am Y Brenin Arthur mae'r storiau hyn o ddiddordeb arbennig i ysgolheigion. Mae Breuddwyd Macsen Wledig yn adrodd hanes yr Ymerawdwr Rhufeinig Magnus Maximus.
Mae tair stori yn chwedlau arthuraidd sydd yng ngwaith Chrétien de Troyes hefyd. erbyn hyn cred ysgolheigion bod y ddau gasgliad yn annibynnol are ei gilydd ond yn seiliedig ar waith hŷn.
Cynhwysir hefyd gan yr Arglwyddes Guest ond na chynhwysir mewn argraffiadau dilynol wythfed chwedl nad oedd yn y Llyfr Gwyn na'r Llyfr Coch, sef
Mabinogi | Mabinogion | Mabinogion | Mabinogion | Mabinogion | マビノギオン | 마비노기온 | Mabinogion | Mabinogion | Mabinogion | Mabinogion | 马比诺吉昂
This article is licensed under the GNU Free Documentation License.
It uses material from the
"Mabinogi".
Home Page • arts • business • computers • games • health • hospitals • home • kids & teens • news • physicians • recreation• reference • regional • science • shopping • society • sports • world