Llywelyn Fawr (Llywelyn ap Iorwerth) (1173 - 11 Ebrill, 1240), ŵyr Owain Gwynedd, oedd tywysog Gwynedd a llyw Cymru.
Yn 27 oed, aeth Llywelyn yn dywysog Gwynedd gan gorchwynegu ei ewythredd. I gadarnhau ei goncwest, priododd â Siwan, merch anghyfreithlon y brenin Siôn o Loegr a bu'n cefnogi Siôn yn ystod ei gyrch yn erbyn yr Albanwyr. Er ei fod yn anghytuno â Siôn a'i olynydd, Harri III o Loegr weithiau, llwyddwyd cadw Cymru yn wlad annibynnol a hyd yn oed cipio Powys Wenwynwyn a Cheredigion. Ar ôl torri crib awdurdod Arglwyddi'r Mers yn Ne Cymru datganodd ei hun yn Dywysog Gwynedd gan sicrhau ei nerth a rheolaeth y rhan fwyaf o Pura Walia trwy Gytundeb Caerwrangon ym 1218.
Datblygodd Llywelyn yr hen Gyfraith Hywel Dda.
Problem mwyaf yr adeg oedd y rheolau etifeddiaeth yng Nghymru. Gan nad oedd y mab hynaf yn etifeddu holl dir a theitl ei dad, ond yn hytrach bod eiddo tad yn cael ei ddosranni rhwng yr holl meibion cyfreithlon ac anghyfreithlon, roedd hi'n annodd adeiladu arweinyddiaeth cryf i Gymru gyfan dros genedlaethau.
Problem arall oedd perthynas Cymru â Loegr. Roedd yn rhaid i dywysogion Cymreig dalu teyrngarwch i frenin Lloegr fel ag a wnaeth Hywel Dda, Owain Gwynedd a'r Arglwydd Rhys. Ond nid oedd Llywelyn yn fodlon ar hyn, gan nad oedd raid i frenin yr Alban talu gwrogaeth i frenin Lloegr.
Wedi genedigaeth Dafydd ap Llywelyn ac Elen, plant Llywelyn a Siwan, bu i Siwan gychwyn perthynas â William de Braose, arweinydd Norman o Dde Cymru. Oherwydd hyn fe laddodd Llywelyn William er bod merch William, Isabella, yn wraig i fab Llywelyn, Dafydd. Fe rodwyd Siwan yn y carchar. Wedi cyfnod maddeuodd Llywelyn Siwan a'i hadfer yn dywysoges.
Ar farwolaeth Llywelyn ym 1240 dechreuodd ei etifeddion Gruffydd a Dafydd frwydro, er fod Llywelyn wedi cydnabod Dafydd fel ei unig etifedd. Bu i Ddafydd ennill gan olynu Llywelyn fel tywysog Gwynedd.
Llywelyn the Great | Llywelyn le Grand | Llywelyn Fawr ap Iorwerth
This article is licensed under the GNU Free Documentation License.
It uses material from the
"Llywelyn Fawr".
Home Page • arts • business • computers • games • health • hospitals • home • kids & teens • news • physicians • recreation• reference • regional • science • shopping • society • sports • world