Un o'r llawysgrifau hynaf a casgliad barddonol hynaf Cymru i oroesi yw Llyfr Du Caerfyrddin. Ysgrfennwyd tua 1250 ac mae'n cynnwys rhyw 20 o gerddi a gasglwyd yn ystod y tair neu'r pedwir canrif blaenorol, a hynny ar 54 ffolio, sef 108 tudalen (mae rhai ffolio ar goll). Mae hi yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru heddiw.
Dywedodd William Forbes Skene (1809-1892) fod y llyfr hwn yn un o'r Four Ancient Books of Wales. Mae'n debygol mai copïwr proffesynol oedd yn llunio'r tudalenau, ond am fod ffurf a maint y llythrennau yn newid yn sylweddol ar ôl ffolio 20 mae'n debyg y cafodd y llawysgrif ei llunio ar ddau gyfnod gwahanol.
This article is licensed under the GNU Free Documentation License.
It uses material from the
"Llyfr Du Caerfyrddin".
Home Page • arts • business • computers • games • health • hospitals • home • kids & teens • news • physicians • recreation• reference • regional • science • shopping • society • sports • world