Mae'r Llydaweg (neu Brezhoneg yn y Llydaweg), yn tarddu o'r Frythoneg, fel ag y gwnaeth y Gymraeg a'r Gernyweg. Tarddodd y Frythoneg ei hun o'r Gelteg. Siaredir Llydaweg mewn rhannau o wladwriaeth Ffrainc, sef Llydaw Isel, sy'n cynnwys Finistère, gorllewin Côtes d'Armor a Morbihan.
Yn 1999, roedd tua 257 000 o bobl yn medru Llydaweg yn ôl yr INSEE (Sefydliad gwybodaeth ystadegol ac economaidd Ffrainc), sef un rhan o bump o boblogaeth Llydaw Isel. Roedd cefn gwlad Breizh Izel yn uniaith Lydaweg tan yr Ail Ryfel Byd. Oddi ar y rhyfel ychydig o bobl ifanc a fagwyd yn Llydaweg. Ar waetha'r ffaith nad oedd mewnlifiad yn digwydd yr adeg honno ymddengys i'r rhan fwyaf o deuluoedd Llywdaweg benderfynu fagu eu plant yn uniaith Ffrangeg o tua 1946-1950 ymlaen. Mae nifer y siaradwyr iaith gyntaf ar fin cwympo i lefel isel gyda cholli'r genhedlaeth 70 - 80 oed dros y degawdau nesaf yma, sef cnewyllyn y siaradwyr iaith gyntaf. Ar hyn o bryd prin bod 2% o blant Llydaw Isel yn medru'r Llydaweg a'r rhan fwyaf ohonynt oherwydd ymdrech ysgolion Llydaweg Diwan. Mae yna gyfundrefn Divyezh (dwyeithog cyhoeddus)/Dihun (dwyieithog preifat). Nid oes gan y Llydaweg unrhyw statws swyddogol fel y Gymraeg, ond mae radio a theledu cyhoeddus yn darlledu rhai rhaglenni Llydaweg bob dydd.
Bretons (taal) | Bretonisch | Bretón | Бретонски език | Brezhoneg | Bretó | Bretonština | Bretonsk | Bretonische Sprache | Breton language | Bretona lingvo | Idioma bretón | Bretainiera | Bretoni | Breton | Breton | Briotáinis | Lingua bretoa | ברטונית | Bahasa Breton | Lingua bretone | ブルトン語 | Bretonek | Lingua Armoricana (breton) | Bretoens | Bahasa Breton | Bretons | Bretonsk språk | Bréton | Breton | Bretonisch | Język bretoński | Língua bretã | Limba bretonă | Бретонский язык | Lingua brètuni | Breton language | Bretonščina | Bretonska | Burton | 布列塔尼语
This article is licensed under the GNU Free Documentation License.
It uses material from the
"Llydaweg".
Home Page • arts • business • computers • games • health • hospitals • home • kids & teens • news • physicians • recreation• reference • regional • science • shopping • society • sports • world