Y Lleng Rufeinig (o'r Lladin legio) oedd prif uned filwrol y fyddin Rufeinig. Yn oes aur yr Ymerodraeth yr oedd yn cynnwys rhwng 5,000 a 6,000 o wyr traed; yn ddiweddarach hyd 8.000 o wyr traed a marchogion yn ychwanegol. Yr oedd gan bob lleng rif, ac fel rheol enw hefyd (gweler Rhestr Llengoedd Rhufeinig). Mae hanes am tua 50 o lengoedd, ond ni fu mwy na 28 mewn bodolaeth ar yr un pryd.
Y lleng oedd sylfaen yr ymerodraeth, ac anaml y gallai eu gelynion eu gwrthsefyll mewn brwydr. Yn wahanol i'r rhan fwyaf o'u gwrthwynebwyr, yr oedd y llengfilwyr yn filwyr proffesiynol oedd wedi dewis y fyddin fel gyrfa.
Yn ystod y Weriniaeth yr oedd llengoedd yn cael eu ffurfio pan oedd angen ac yna yn cael eu chwalu pan nad oedd angen amdanynt mwyach. Yng nghyfnod yr Ymerodraeth Rufeinig daethant yn fwy sefydlog, a bu rhai llengoedd mewn bodolaeth am ganrifoedd lawer.
Ar adegau yr oedd gan y llengoedd ddylanwad mawr ar wleidyddiaeth Rhufain, er enghraifft yn ystod Blwyddyn y Pedwar Ymerawdr pan geisiodd llengoedd mewn gwahanol rannau o'r ymerodraeth sefydlu eu ffefrynnau eu hunain fel ymerawdr. Oherwydd hyn, gallai unrhyw gadfridog a allai ennill teyrngarwch nifer o lengoedd iddo ef ei hun yn bersonol fod yn beryglus i'r ymerawdr.
O danynt hwy, ac yn ffurfio asgwrn cefn y lleng, yr oedd y milwyr proffesiynol, oedd yn gwneud gyrfa yn y fyddin. Yr uchaf o'r rhain oedd y praefectus castrorum (pennaeth y gwersyll), ac yn nesaf ato y primus pilus, sef yr uchaf o'r canwriaid mewn safle. Yna yr oedd y canwriaid eraill, gyda swyddogion eraill a elwid yn optio yn eu dilyn. Yr oedd nifer o fân swyddogion megis y tesserarius, a swyddi megis daliwr y faner. Yna deuai'r llengfilwyr cyffredin. Roedd y rhain yn filwyr proffesiynol ar gyflog, wedi eu hyfforddi a'u disgyblu'n ofalus.
Yr oedd gan bob lleng ei Eryr, delw o eryr ar bolyn oedd yn cynrychioli'r lleng. Mewn brwydr delid yr eryr gan swyddog a elwid yr aquilifer, ac nid oedd dim gwaeth a allai ddigwydd i leng na cholli ei heryr i'r gelyn mewn brwydr.
Римски легион | Legió romana | Legie | Legion | Römische Legion | Roman legion | Legión romana | Leegion | Legioona | Légion romaine | לגיון | Legione romana | ローマ軍団 | Legio | Legioen | Romersk legion | Legion | Legião romana | Римский легион | Rimska legija | Romersk legion | 罗马军团
This article is licensed under the GNU Free Documentation License.
It uses material from the
"Lleng Rufeinig".
Home Page • arts • business • computers • games • health • hospitals • home • kids & teens • news • physicians • recreation• reference • regional • science • shopping • society • sports • world