article

Smotyn_Coch.gif
Llanelli
Sir Gaerfyrddin

Llanelli yw'r dref fwyaf yn Sir Gaerfyrddin, ar aber yr Afon Lliedi rhyw ddeuddeg milltir i'r gorllewin o Abertawe ac rhyw ugain milltir i'r de o Gaerfyrddin. Tyfodd y dref yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg o amgylch y gweithfeydd glo a'r gwaith tun.

Mae Llanelli yn enw ar Etholaeth Llanelli hefyd.

Oherwydd fod ganddi dwy 'll' yn ei henw, mae'r dref yn aml yn creu anawsterau i ddarlledwyr Seisnig.

Llanelli a'r Gymraeg


Sefydlwyd yr ysgol benodedig Gymraeg gyntaf, a sefydlwyd gan Awdurdod Lleol, yn Llanelli yn 1947 sef Ysgol Gymraeg Dewi Sant, Llanelli

Yn y 50au bu Trefor ac Eileen Beasley yn ceisio cael gan Gyngor Gwledig Llanelli ddarparu papur treth Cymraeg trwy wrthod talu'r dreth hyd y caent un. Ymateb y cyngor oedd eu herlyn gan anfon y bwmbeili i fewn ac i werthu eu celfi er mwyn cael arian y dreth. Roedd cyfeillion yn prynu y celfi er mwyn eu rhoi yn ôl iddynt. Bu rhaid aros tam gamol y 60au cyn cael statws cyfartal i'r Cymraeg pan y gwnaeth y cynghorau dderbyn bod rhiad iddynt ddarparu rhai dpogfennau yn Gymraeg

Rygbi


Mae gan Lanelli gysylltiad cryf â rygbi. Yn 1967 gwnaethant guro Awstralia ac yn 1972 Seland Newydd. Hyd heddiw, ceir lluniau o'r sgorfwrdd enwog (9 - 3) mewn nifer o'r tafardai lleol. Ym 1999 cynhaliwyd gêm rhyngwladal ar barc y Strade rhwng yr Ariannin ac ynysoedd Samoa.

Eisteddfod Genedlaethol


Cynhaliwyd Eisteddfod Genedlaethol yn Llanelli ym 1895, 1903, 1930, 1962 a 2000. Am wybodaeth bellach gweler:

Cysylltiadau allanol


Llanelli | Llanelli | Llanelli | Llanelli | Llanelli

 

This article is licensed under the GNU Free Documentation License. It uses material from the "Llanelli (tref)".

Home Pageartsbusinesscomputersgameshealthhospitalshomekids & teensnewsphysiciansrecreationreferenceregionalscienceshoppingsocietysportsworld