article Related Topics:
Llandrindod_Wells
 

Smotyn_Coch.gif
Llandrindod
Powys

Mae Llandrindod yn dref yn nghanolbarth Powys.

Fe dyfodd y dref yn y 19eg ganrif pryd gyrhaeddodd y rheilffordd, gan ddod â llawer o ymwelwyr i brofi'r dyfroedd arbennig o'r ffynhonnau sydd yn y dref.

Erbyn hyn mae Llandrindod yn gartref i Gyngor Sir Powys, sydd yn un o brif gyflogwyr y dref. Cynhelir nifer o gynadleddau yn y dref, gan bod cynifer o westau yn y dref ac hefyd Y Pafiliwn, adeilad mawr sy'n addas ar gyfer digwyddiadau eitha' mawr.

Mae Cwm Y Gof (Saesneg: 'Rock Park') yn barc pert rhwng y dref a'r Afon Ieithon. Yn y parc mae man yn uchel uwchben yr afon o'r enw Llam Y Cariadau (Saesneg: 'Lovers' Leap'). Yn ôl hen chwedl, oddi yno y neidiodd dau oedd yn gariadon cudd.

Mae gan Landrindod hefyd lyn adnabyddys gydag ynys bach yn ei ganol.

Cynhelir marchnad yn y dref bob dydd Gwener gerllaw yr orsaf drên. Ceir hefyd nifer o siopau bach annibynnol a dau archfarchnad yn y dref.

Mae gorsaf drên Llandrindod yn arhosfa ar Linell Calon Cymru, sy'n rhedeg o Abertawe i'r Amwythig.

Llandrindod Wells | Llandrindod Wells

 

This article is licensed under the GNU Free Documentation License. It uses material from the "Llandrindod".

Home Pageartsbusinesscomputersgameshealthhospitalshomekids & teensnewsphysiciansrecreationreferenceregionalscienceshoppingsocietysportsworld