Y mae dau bentref o'r enw Llanddeusant yng Nghymru.
Lleolir Llanddeusant, Ynys Môn i'r gogledd o Afon Alaw ac i'r gorllewin o gronfa ddŵr Llyn Alaw. Un o atyniadau nodweddiadol y pentref yw Melin Llynnon, yr unig felin wynt sy'n parhau i weithio a chynhyrchu blawd yng Nghymru heddiw. Yn ogystal, mae yna felin ddŵr yn y pentref ar lan Afon Alaw, o'r enw Melin Howell.
Mae Llanddeusant, Sir Gaerfyrddin wedi ei leoli ar ymyl orllewinol Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog, ger Llangadog. Mae yna boblogaeth sylweddol o Farcudiaid Coch yn yr ardal ac un o atyniadau'r pentref yw'r Orsaf Fwydo Barcudiaid sydd ar agor i'r cyhoedd.
This article is licensed under the GNU Free Documentation License.
It uses material from the
"Llanddeusant".
Home Page • arts • business • computers • games • health • hospitals • home • kids & teens • news • physicians • recreation• reference • regional • science • shopping • society • sports • world