article

Roedd Jacques Cartier, neu Jakez Karter yn Llydaweg (31 Rhagfyr 1491 - 19 Ionawr 1557) yn fforiwr o Lydaw a wnaeth ymchwilio rhannau o Ganada.

Fe'i ddewiswyd gan frenin Ffrainc, François I, i ddarganfod "ynysoedd a thiroedd lle dywedir fod llawer o aur a thrysorau eraill". Gadawodd Ffrainc ym 1534 i chwilio am lwybr i Asia i'r gorllewin, ond yn lle hynny ymchwiliodd rhannau o Newfoundland a dwyrain Canada. Pan ddysgodd am fodolaeth afon St Lawrence, meddyliodd mai dyma'r ffordd chwedlonol i Asia. Yn ystod y daith, herwgipiodd dau o feibion pennaeth un o'r llwythi brodorol, Donnacona, a'u cludo'n ôl i Ewrop.

Y flwyddyn ganlynol, aeth ar ei ail daith i Ogledd America gyda 3 llong, 110 o ddynion a'r meibion a gipiwyd. Dychwelodd y bechgyn i'r llwyth. Hwyliodd i fyny afon St Lawrence tuag at bentrefi Stadacona (lleoliad Dinas Quebec heddiw) a Hochelaga (Montreal). Clywodd son am wlad o'r enw Saguenay i'r gogledd, a oedd yn llawn aur a thrysorau eraill.

Ar 23 Mai 1541, gadawodd Cartier ar ei drydedd daith. Ceisiodd chwilio am Saguenay, ond methodd deithio'n bellach na Hochelaga. Ar ôl gaeaf caled yng Nghanada, dychwelodd i Ffrainc, i fyw weddill ei oes yn nhref ei febyd, Sant Maloù.

Morwyr

Jacques Cartier | Jacques Cartier | Jakez Karter | Jacques Cartier | Jacques Cartier | Jacques Cartier | Jacques Cartier | Jacques Cartier | Jacques Cartier | Jacques Cartier | Jacques Cartier | Jacques Cartier | Jacques Cartier | Jacques Cartier | Jacques Cartier | Jacques Cartier | ז'ק קרטייה | Jacques Cartier | Jacques Cartier | Jacques Cartier | Jacques Cartier | Jacques Cartier | ジャック・カルティエ | Iacobus Cartier | Žakas Kartjė | Jacques Cartier | Jacques Cartier | Jacques Cartier | Jacques Cartier | Jacques Cartier | Jacques Cartier | Jacques Cartier | Картье, Жак | Jacques Cartier | Jacques Cartier | Jacques Cartier | Jacques Cartier | Jacques Cartier | Jacques Cartier | Жак Картије | Jacques Cartier | ชาก การ์ติเยร์ | Jacques Cartier | Jacques Cartier | Картьє Жак | 雅克·卡蒂亚

 

This article is licensed under the GNU Free Documentation License. It uses material from the "Jacques Cartier".

Home Pageartsbusinesscomputersgameshealthhospitalshomekids & teensnewsphysiciansrecreationreferenceregionalscienceshoppingsocietysportsworld