article

Islwyn Ffowc Elis (17 Tachwedd 1924 - 22 Ionawr 2004), nofelydd Cymraeg mwyaf yr ugeinfed ganrif. Cafodd ei eni yn Wrecsam a'i fagu yn Nglynceiriog, pentref cwbl Gymraeg a Chymreig bryd hynny, tan ei fod yn bump oed, ac wedyn ar fferm y teulu Aberwiel, ychydig tu allan i'r pentref a dwy filltir oddi wrth y ffin â Lloegr. Aeth i Ysgol Gynradd Nantyr cyn mynd i Ysgol Uwchradd Llangollen ac wedyn i Goleg Prifysgol Cymru Bangor. Cyn mynd i'r weinidogaeth bu yng ngholegau diwinyddol Aberystwyth a Bangor. Bu yn awdur llawn amser o 1956 tan 1963 pan ddaeth yn ddarlithydd yng Ngholeg y Drindod yng Nghaerfyrddin. Ef oedd yn gyfrifol am y wasg a chyhoeddiadau ymgyrch etholiadol Plaid Cymru yn Is-etholiad Caerfyrddin 1966 pan enillodd Gwynfor Evans. O 1968 hyd 1975 roedd yn olygydd yn y Cyngor Llyfrau Cymraeg ac o 1975 tan ei ymddeoliad yn 1990 roedd yn ddarlithydd yng Ngholeg Llanbedr Pont Steffan.

Daeth i amlygrwydd pan enillodd y Fedal Ryddiaeth yn 1951 yn Eisteddfod Genedlaethol Llanrwst am gyfrol o ysgrifau Cyn Oeri'r Gwaed. Ond ei waith mwyaf poblogaidd yw Cysgod y Cryman a gafodd ei chyhoeddi yn 1953, nofel sydd wedi gwerthu mwy o gopiau nac unrhyw nofel Gymraeg arall a gyhoeddwyd yn yr ugeinref ganrif.

"Y gŵr a lusgodd y nofel Gymraeg i'r ugeinfed ganrif" oedd disgrifiad rhywun amdano.

Cyflwynodd teulu Ffowc Elis gadair i’r Cyngor Llyfrau Cymru – cadair yr eisteddai'r awdur arni i ysgrifennu sawl un o'i nofelau, gan gynnwys y nofel Cysgod y Cryman.

Llyfryddiaeth

  • Cyn Oeri'r Gwaed (ysgrifau) (1952)
  • Cysgod y Cryman (1953)
  • Ffenestri Tua'r Gwyll {1955)
  • Yn Ôl i Leifior (1956)
  • Wythnos Yng Nghymru Fydd (1957)
  • Blas y Cynfyd (1958)
  • Tabyrddau'r Tabongo (1961)
  • Y Blaned Dirion (1968)
  • Y Gromlech yn yr Haidd (1971)
  • Eira Mawr (1972)
  • Harris - Drama - (1973)
  • Marwydos - Storiau byrion - (1974)

Cymry enwog | Genedigaethau 1924 | Marwolaethau 2004

Islwyn Ffowc Elis

 

This article is licensed under the GNU Free Documentation License. It uses material from the "Islwyn Ffowc Elis".

Home Pageartsbusinesscomputersgameshealthhospitalshomekids & teensnewsphysiciansrecreationreferenceregionalscienceshoppingsocietysportsworld