article

Ganed Iolo Morgannwg yn Edward Williams, yn 1747, ym mhentre Llancarfan, Morgannwg. Gweithiodd trwy ei oes fel saer maen, ond daeth yn enwog fel hynafiaethwr, bardd a radical. Fe sy'n gyfrifol am y rhan helaeth o seremonïau'r Eisteddfod Genedlaethol, a fe hefyd sefydlodd Gorsedd Beirdd Ynys Prydain.

Yn y can mlynedd ar ôl iddo farw (yn 1826) daeth enw Iolo Morgannwg yn destun llosg yng Nghymru, wrth i ysgolheigion cyfoesol ddatguddio faint o "ddarganfyddiadau" Iolo oedd, mewn gwirionedd, dyfeisiadau Iolo ei hun. Ond erbyn heddiw, er bod pawb yn derbyn mai ffugio y gwnaeth, mae defodau a seremonïau Iolo wedi ennill eu lle ym mywyd diwylliannol Cymru, ac mae Iolo ei hun wedi dod yn arwr i'r Cymry.

Cymry enwog

Iolo Morganwg

Iolo Morganwg | Edward Williams | Iolo Morganwg | Iolo Morganwg

 

This article is licensed under the GNU Free Documentation License. It uses material from the "Iolo Morgannwg".

Home Pageartsbusinesscomputersgameshealthhospitalshomekids & teensnewsphysiciansrecreationreferenceregionalscienceshoppingsocietysportsworld