article

Brenin Cymru oedd Hywel 'Dda' ap Cadell (887 - 950) a fuodd yn rheoli y Deheubarth, rhan dde-orllewinol y wlad yn cynnwys Ceredigion, Ystrad Tywi a Dyfed. Erbyn ei farwolaeth roedd e'n rheoli Cymru fodern ymron i gyd. Mae e'n nodedig yn bennaf am greu cyfraith unffurf gyntaf y wlad. Ei wraig oedd Elen merch Llywarch o Ddyfed.

Sefydlwyd Cyfraith Hywel Dda yr un adeg â cyfraith Mers gan Brenin Offa a cyfraith Wessex gan Brenin Alfred a mae'n bosib fod Hywel yn gwybod amdanynt achos roedd wedi bod yn ymweld â'r llys Seisnig. Roedd cyfraith Hywel Dda yn gasgliad dyletswyddau traddodiadol a sgrifenwyd i lawr tua 930 yn Hendy-gwyn ar Dâf, Sir Benfro. Roedd pobl doeth o bob cŵr y wlad yn cydweithio i ffurfio'r gyfraith a dilynodd y Cymry cyfraith Hywel Dda am ganrifoedd. Roedd y gyfraith yn rhoi statws cyfreithol i fenywod a phlant hefyd, peth prin iawn ar yr adeg.

Roedd cysylltiadau agos rhwng Hywel â'r llys Seisneg. Ym 928 aeth Hywel ar bererindod i Rufain.

Heddiw, mae Prifysgol Cymru yn rhoi Gwobr Goffa Hywel Dda am ymchwil i gyfraith a defod Cymru yn yr Canol Oesoedd.

Gweler hefyd


Cysylltiadau Allanol


Cymry enwog

Hywel Dda | Howell le Bon | Hywel Dda ap Cadell

 

This article is licensed under the GNU Free Documentation License. It uses material from the "Hywel Dda".

Home Pageartsbusinesscomputersgameshealthhospitalshomekids & teensnewsphysiciansrecreationreferenceregionalscienceshoppingsocietysportsworld