article

Hen Wlad fy Nhadau yw anthem cenedlaethol Cymru. Gwaith Evan James (1809-1878) a'i fab James James (1833-1902) yw'r dôn a'r geiriau.

Geiriau


Mae hen wlad fy nhadau yn annwyl i mi,
Gwlad beirdd a chantorion, enwogion o fri;
Ei gwrol ryfelwyr, gwladgarwyr tra mad,
Dros ryddid collasant eu gwaed.

Cytgan
Gwlad, Gwlad, pleidiol wyf i'm gwlad.
Tra môr yn fur i'r bur hoff bau,
O bydded i'r heniaith barhau.

Hen Gymru fynyddig, paradwys y bardd,
Pob dyffryn, pob clogwyn, i'm golwg sydd hardd;
Trwy deimlad gwladgarol, mor swynol yw si
Ei nentydd, afonydd, i mi.

Cytgan

Os treisiodd y gelyn fy ngwlad tan ei droed,
Mae heniaith y Cymry mor fyw ag erioed,
Ni luddiwyd yr awen gan erchyll law brad,
Na thelyn berseiniol fy ngwlad.

Cytgan

Cyfeiriadau


Hen Wlad fy Nhadau | Hen Wlad Fy Nhadau | Hen Wlad Fy Nhadau | Hen Wlad Fy Nhadau | Hen Wlad Fy Nhadau | Hen Wlad Fy Nhadau | Hen Wlad fy Nhadau | Hino do País de Gales | Hen Wlad Fy Nhadau | Hen Wlad Fy Nhadau

 

This article is licensed under the GNU Free Documentation License. It uses material from the "Hen Wlad fy Nhadau".

Home Pageartsbusinesscomputersgameshealthhospitalshomekids & teensnewsphysiciansrecreationreferenceregionalscienceshoppingsocietysportsworld