Mae Hebraeg yn iaith Semitaidd a siaradir gan tua 6 miliwn o bobl yn Israel a thros y byd. Iaith gwreiddiol yr ysgrythurau Iddewig (hen destament y Beibl Cristnogol) yw Hebraeg Beiblaidd (neu Glasurol). Diflanodd Hebraeg fel iaith lafar yn yr ail ganrif OC, ond parhaodd fel iaith ysgrifenedig. Cafodd Hebraeg ei hadfywio fel iaith lafar yn niwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg a daeth yn iaith swyddogol gwladwriaeth fodern Israel yn yr ugeinfed ganrif.
Er mai'r mwyaf amlwg ydy hi, un ymhlith nifer o ieithoedd Iddewig yw Hebraeg. Ymhlith y lleill y mae Iddew-Almaeneg neu Yiddish-Daitsch (Yiddish) a Ladino (Sbaeneg Iddewig). Cafodd y rhain eu defnyddio gan wahanol gymunedau Iddewig tra bod Hebraeg llafar yn farw, ond crebachu bu eu hanes yn sgil yr adfywiad yn nefnydd yr Hebraeg, gan adael lleiafrifoedd bychain iawn o siaradwyr yr ieithoedd hyn, os o gwbl.
Un o wyrthiau ieithyddol yr ugeinfed ganrif oedd adfywiad Hebraeg, na fu'n iaith gyntaf i neb ers canrifoedd. Mae mewnfudwyr i Israel, o Ewrop, Unol Daleithiau America, yr hen Undeb Sofietaidd ac Affrica, er enghraifft yn cael eu trochi yn yr Hebraeg trwy gyrsiau Wlpan.
Ysgrifennir Hebraeg yn ei wyddor ei hun, o'r dde i'r chwith. Mae 22 symbol yn yr wyddor, pob un yn gytsain. Dynodir llafariaid gan system o bwyntiau, ond fel arfer dim ond mewn cyhoeddiadau i blant a dysgwyr y'u defnyddir.
Hebrēisc sprǣc | لغة عبرية | Иврит | Hebraeg | Hebrejski jezik | Hebreu | Hebrejština | Hebraisk (sprog) | Hebräische Sprache | Εβραϊκή γλώσσα | Hebrew language | Hebrea lingvo | Idioma hebreo | Heebrea keel | عبری | Heprea | Hébreu | Eabhra | Lingua hebrea | עברית | इब्रानी | Ivrit nyelv | Bahasa Ibrani | Lingua ebraica | ヘブライ語 | 히브리어 | Ebrow | Lingua Hebraica | Idioma ebreo | Hebreeuws | Liébeleo | Bahasa Ibrani | Hebrääsche Spraak | Hebreeuws | Hebraisk språk | Hebraisk språk | Język hebrajski | Língua hebraica | Limba ebraică | Иврит | Hebrejski jezik | Hebrew language | Hebrejčina | Hebrejščina | Хебрејски језик | Hebreiska | ภาษาฮีบรู | Wikang Hebreo | İbranice | Гебрейська мова | העברעיש | 希伯来语