Mae Gareth Llewellyn (ganed 24 Chwefror 1969 ym Mhen-y-bont ar Ogwr) yn chwaraewr Rygbi'r Undeb a enillodd 92 o gpaiau dros Gymru fel clo.
Mae Llewellyn wedi chwarae rygbi dros glybiau Gastell Nedd, Harlequins, Y Gweilch a Narbonne, ac ymunodd a Bristol Shoguns ar ddechrau tymor 2005-06.
Chwaraeodd ei gêm gyntaf dros Gymru yn erbyn y Crysau Duon yn 1989 ac aeth yn ei flaen i ennill 92 o gapiau, gan guro'r record o 87 a ddelid gan Neil Jenkins yn y gêm brawf yn erbyn Ariannin ar 12 Mehefin 2004. Bu'n gapten Cymru saith gwaith, a chwaraeodd mewn tair Cwpan y Byd - 1995, 1999 a 2003. Chwaraeodd rygbi rhyngwladol mewn tri degawd gwahanol a than wyth hyfforddwr gwahanol. Ar ôl i Gymru ennill Y Gamp Lawn yn 2005, cyhoeddodd ei ymddeoliad o rygbi rhyngwladol.
Mae ei frawd, Glyn Llewellyn, hefyd wedi chwarae rygbi i Gymru.
This article is licensed under the GNU Free Documentation License.
It uses material from the
"Gareth Llewellyn".
Home Page • arts • business • computers • games • health • hospitals • home • kids & teens • news • physicians • recreation• reference • regional • science • shopping • society • sports • world