article

LleoliadEwrop.png | Ewrop lloeren orthograffig.jpg

Mae Ewrop yn un o'r saith cyfandir sydd, yn yr achos hwn, yn fwy yn yr ystyr ddiwylliannol a gwleidyddol nag yn ffisioddaearyddol. Yn ffisegol ac yn ddaearegol, mae Ewrop yn isgyfandir neu'n benrhyn mawr, yn ffurfio'r rhan mwyaf gorllewinol o Ewrasia. Ar y ffin i'r gogledd mae y Cefnfor Arctig, i'r gorllewin y Cefnfor Iwerydd ac i'r de mae y Môr Canoldir a'r Cawcasws. Mae ffin Ewrop i'r dwyrain yn amhendant, ond yn draddodiadol ystyrir Mynyddoedd yr Wral a'r Môr Caspian i'r de-ddwyrain fel y ffin dwyreiniol. Ystyrir yr Wrals gan y rhan fwyaf fel y tirnod daearyddol a tectonig sy'n gwahanu Asia oddi wrth Ewrop.

Ewrop yw'r cyfandir lleiaf ond un yn nhermau arwynebedd, yn gwneud lan tua 10,790,000 km² (4,170,000 mi sg) neu 7.1% o arwynebedd y Ddaear, gyda Awstralia yn unig yn llai. Yn nhermau poblogaeth, dyma'r cyfandir trydydd mwyaf (mae Asia ac Affrica yn fwy) efo poblogaeth o dros 700,000,000, neu tua 11% o poblogaeth y byd.

Geirdarddiad


Europa-Zeus-LDS.jpg, wedi'i cario i ffwrdd gan Zeus mewn ffurf tarw.]]

Ym mytholeg Groegaidd, roedd Europa yn tywysoges Phoeniciaidd cafodd ei herwgipio gan Zeus mewn ffurf tarw a'i gymryd i ynys Crete, lle rhoddodd hi enedigaeth i Minos. Am Homer, roedd Europé (Groeg: Ευρωπη) yn frenhines mytholegol o Crete, nid dynodiad daearyddol. Daeth Europa yn enw am tir mawr Groeg, ac erbyn 500 BC roedd ei ystyr wedi ehangu i tiroedd y gogledd.

Hanes


Prif erthygl: Hanes Ewrop

Rhannodd yr Ymerodraeth Rhufeinig y gyfandir ar hyd y Rhein a'r Donaw am nifer o ganrifoedd. Yn ddilyn cwymp yr Ymerodraeth Rhufeinig, aeth Ewrop i mewn i'r Oesoedd Tywyll. Yn ystod y cyfnod yma, concrodd yr Ymerodraeth Ottoman Istanbul (Caergystennin) - yn dod â ddiwedd i'r Ymerodraeth Bysantaidd - a ddaeth yn bŵer pwysicaf Ewrop. Dechreuodd y Dadeni cyfnod o ddarganfyddiad, fforiad a chynydd mewn gwybodaeth wyddonol. Yn ystod y bymthegfed ganrif agorodd Portiwgal yr oes o ddarganfyddiadau, efo Sbaen yn ei ddilyn. Ymunodd Ffrainc, yr Iseldiroedd a'r Deyrnas Unedig mewn adeiladu ymerodraethau trefedigaethol enfawr yn Affrica, yr Americas, Asia ac Awstralasia.

Ar ôl yr oes o ddarganfyddiad, dechreuodd syniadau democratiaeth cymryd dros Ewrop. Cododd nifer o frwydrau am annibyniaeth, er enghraifft yn Ffrainc yn ystod cyfnod y Chwyldro Ffrengig. Arweiniodd y codiad democratiaeth hyn i cynydd mewn tensiynau yn Ewrop ar ben y tensiynau oedd yn bodoli'n barod oherwydd cystadleuaeth a'r Fyd Newydd. Y gwrthdaro mwyaf enwog oedd pryd cododd Napoleon Bonaparte i phŵer a ddechreuodd ar goncwest wnaeth ffurfio'r Ymerodraeth Ffrengig, ac wedyn cwympo'n fuan iawn. Ar ôl y goncwestau yma sefydlogodd Ewrop, ond mi oedd yr hen sefydliadau yn barod yn ddechrau cwympo.

Dechreuodd y Chwyldro Diwydiannol yn y Deyrnas Unedig yn hwyr y ddeunawfed ganrif, ac arweiniodd hyn at symudiad i ffwrdd o amaeth, mwy o ffyniant a chynydd cyfatebol mewn poblogaeth. O ddiwedd yr Ail Rhyfel Byd tan ddiwedd y Rhyfel Oer, rhannwyd Ewrop i ddwy brif blociau gwleidyddol ac economaidd: gwledydd Comiwnyddol yn Nwyrain Ewrop (efo'r eithriadau o Twrci a Groeg) a wledydd Cyfalafwr yn Orllewin Ewrop a Dde Ewrop. O gwmpas 1990, yn ddilyn cwymp Wal Berlin, chwalodd y floc Dwyreiniol.

Daearyddiaeth Ewrop


Prif erthygl: Daearyddiaeth Ewrop

gwledydd-ewrop.jpg Yn daearyddol mae Ewrop yn rhan o'r ehangdir fwy gelwir yn Ewrasia. Mae'r cyfandir yn dechrau at Mynyddoedd yr Wral yn Rwsia, sy'n diffinio ffin dwyrain Ewrop â Asia. Nid yw'r ffin de-ddwyrain â Asia yn cael ei ddiffinio'n cyffredinol. Mwyaf cyffredin mae'r Afon Wral neu, fel arall, yr Afon Emba yn cael ei disgrifio fel ffiniau'r cyfandir yn yr ardal yma. Mae'r ffin yn parhau â'r Môr Caspian, ac yna'r Afon Araxes yn y Cawcasws, ac ymlaen i'r Môr Ddu; mae'r Bosporus, Môr y Marmara, ac y Dardanelles yn diweddu'r ffin Asiaidd. Mae Môr y Canoldir i'r dde yn gwahanu Ewrop o Affrica. Y Cefnfor Iwerydd yw'r ffin gorllewinol, ond mae Gwlad yr Ia, llawer pellach i ffwrdd na'r pwyntiau agosaf o Affrica ac Asia, fel arfer yn cael ei cynnwys yn Ewrop.

Gwledydd Ewrop


Gwladwriaethau annibynnol

Ystyrir y gwladwriaethau annibynnol canlynol i fod yn Ewrop:
       
1 Nid yw Armenia a Cyprus yn rhan o Ewrop yn ddaearyddol, ond gellir eu ystyried yn Ewropeaidd yn diwylliannol.
2 Mae gan Azerbaijan and Georgia tir yn Ewrop i'r gogledd o frig y Cawcasws a'r Afon Kura.
3 Lleolir rhai rhannau o Ffrainc tu fas i Ewrop (megis Guadeloupe, Martinique, Guyane Ffrengig a Réunion).
4 Mae gan Rwsia a Kazakstan tir yn Ewrop i'r gorllewin o Mynyddoedd yr Wral ac yr Afonydd Wral ac Emba.
5 Mae enw'r wlad yma yn dadl ryngwladol.
6 Mae gan yr Iseldiroedd dwy endid tu fas i Ewrop (Aruba ac Antilles yr Iseldiroedd, yn y Caribi).
7 Lleolir Ynysoedd Madeira Portiwgal yng ngogledd y Cefnfor Iwerydd yn agos i tir mawr Affrica.
8 Undeb gwladwriaeth o Gweriniaeth Serbia a Gweriniaeth Montenegro (i gynnal refferendwm annibyniaeth ar 21 Mai 2006).
9 Lleolir Ynysoedd Dedwydd Sbaen yng ngogledd y Cefnfor Iwerydd; lleolir plazas de soberanía (allglofannau) ar tir mawr Affrica.
10 Mae gan Twrci tir yn Ewrop i'r gorllewin a'r gogledd o'r Bosporus a'r Dardanelles.

Tabl o wledydd, tiriogaethau a rhanbarthau Ewrop

Enw tiriogaeth,
efo baner
Arwynebedd
(km²)
Poblogaeth
(1 Gorffennaf 2002 amcan.)
Dwysedd poblogaeth
(per km²)
Prifddinas
Dwyrain Ewrop:
Flag of Belarus.svg Belarus 207,600 10,335,382 49.8 Minsk
Flag of Bulgaria.svg Bwlgaria 110,910 7,621,337 68.7 Sofia
Flag of Hungary.svg Hwngari 93,030 10,075,034 108.3 Budapest
Flag of Moldova.svg Moldova 33,843 4,434,547 131.0 Chisinau
Flag of Poland.svg Gwlad Pwyl 312,685 38,625,478 123.5 Warsaw
Flag of Romania.svg România 238,391 21,698,181 91.0 Bucharest
Flag of Russia.svg Rwsia 3,960,000 106,037,143 26.8 Moscow
Flag of Slovakia.svg Slofacia 48,845 5,422,366 111.0 Bratislava
Flag of the Czech Republic.svg Gweriniaeth Tsiec 78,866 10,256,760 130.1 Prague
Flag of Ukraine.svg Wcráin 603,700 48,396,470 80.2 Kyiv
Gogledd Ewrop:
Flag of Denmark.svg Denmarc 43,094 5,368,854 124.6 Copenhagen
Flag of the United Kingdom.svg Deyrnas Unedig 244,820 59,778,002 244.2 Llundain
Flag of Estonia.svg Estonia 45,226 1,415,681 31.3 Tallinn
Flag of the Faroe Islands.svg Ynysoedd Ffaroe (Denmarc) 1,399 46,011 32.9 Tórshavn
Flag of Finland.svg Y Ffindir 337,030 5,183,545 15.4 Helsinki
Flag of Guernsey.svg Ynys y Garn 78 64,587 828.0 St Peter Port
Flag of Iceland.svg Gwlad yr Iâ 103,000 279,384 2.7 Reykjavík
Flag of Ireland.svg Iwerddon 70,280 3,883,159 55.3 Dulyn
Flag of Jersey.svg Jersey 116 89,775 773.9 Saint Helier
Flag of Latvia.svg Latfia 64,589 2,366,515 36.6 Riga
Flag of Lithuania.svg Lithuania 65,200 3,601,138 55.2 Vilnius
Flag of Norway.svg Norwy 324,220 4,525,116 14.0 Oslo
Flag of Norway.svg Ynysoedd Svalbard a
Jan Mayen
(Norwy)
62,049 2,868 0.046 Longyearbyen
Flag of Sweden.svg Sweden 449,964 8,876,744 19.7 Stockholm
Flag of the Isle of Man.svg Ynys Manaw 572 73,873 129.1 Douglas
De Ewrop:
Flag of Albania.svg Albania 28,748 3,544,841 123.3 Tirana
Flag of Andorra.svg Andorra 468 68,403 146.2 Andorra la Vella
Flag of Bosnia and Herzegovina.svg Bosna-Hercegovina 51,129 3,964,388 77.5 Sarajevo
Flag of Croatia.svg Croatia 56,542 4,390,751 77.7 Zagreb
Flag of Italy.svg Yr Eidal 301,230 57,715,625 191.6 Rhufain
Flag of the Vatican City.svg Dinas y Fatican 0.44 900 2,045.5 Dinas y Fatican
Flag of Gibraltar.svg Gibralter (DU) 5.9 27,714 4,697.3 Gibraltar
Flag of Greece.svg Groeg 131,940 10,645,343 80.7 Athen
Flag of Macedonia.svg Cyn-weriniaeth Iwgoslafaidd Macedonia 25,333 2,054,800 81.1 Skopje
Flag of Malta.svg Malta 316 397,499 1,257.9 Valletta
Flag of Portugal.svg Portiwgal 91,568 10,084,245 110.1 Lisbon
Flag of San Marino.svg San Marino 61 27,730 454.6 San Marino
Flag of Spain.svg Sbaen 498,506 40,077,100 80.4 Madrid
Flag of Serbia and Montenegro.svg Serbia a Montenegro 102,173 10,280,000 100.6 Beograd
Flag of Slovenia.svg Slofenia 20,273 1,932,917 95.3 Ljubljana
Gorllewin Ewrop:
Flag of Germany.svg Yr Almaen 357,021 83,251,851 233.2 Berlin
Flag of Austria.svg Awstria 83,858 8,169,929 97.4 Fienna
Flag of Belgium.svg Gwlad Belg 30,510 10,274,595 336.8 Brwsel
Flag of France.svg Ffrainc 547,030 59,765,983 109.3 Paris
Flag of Slovakia.svg Yr Iseldiroedd 41,526 16,318,199 393.0 Amsterdam, Den Haag
Flag of Liechtenstein.svg Liechtenstein 160 32,842 205.3 Vaduz
Flag of Luxembourg.svg Lwcsembwrg 2,586 448,569 173.5 Lwcsembwrg
Flag of Monaco.svg Monaco 1.95 31,987 16,403.6 Monaco
Flag of Switzerland.svg Y Swistir 41,290 7,301,994 176.8 Bern
Gorllewin Asia:
Flag of Armenia.svg Armenia 29,800 Yerevan
Flag of Azerbaijan.svg Azerbaijan 39,730 4,198,491 105.7 Baku
Flag of Cyprus.svg Cyprus 5,995 780,133 130.1 Nicosia (Lefkosa)
Flag of Georgia.svg Georgia 49,240 2,447,176 49.7 Tbilisi
Flag of Turkey.svg Twrci 724,378 71,044,932 453.1 Ankara
Canolbarth Asia:
Flag of Kazakhstan.svg Kazakstan 370,373 1,285,174 3.4 Astana
Cyfanswm 10,431,299 709,022,061 68.0

Gwelwch hefyd


Ewrop | Cyfandir

Europa | Europa | Europa | Europa | أوروبا | Europa | Iwrupa | Эўропа | Европа | ইউরোপ | Europa | Evropa | Europa | ᎡᎶᏆ | Europa | Evropa | Eùropa | Европа | Europa | Europa | Ευρώπη | Europe | Eŭropo | Europa | Euroopa | Europa | اروپا | Eurooppa | Europe | Europe | Jeropa | An Eoraip | Europa | Europa | Europa | યુરોપ | ʻEulopa | אירופה | यूरोप | Europa | Ewòp | Európa | Europa | Eropa | Europa | Evrópa | Europa | ヨーロッパ | ევროპა | Еуропа | ಯುರೋಪ್ | 유럽 | Ewropa | Europa | Europa | Europa (Kontinent) | Europa | Europa | Eiropa | Ūropi | Европа | Europa | Eropah | Iurop | Eutlocpan | Europa | Europa (continent) | Europa | Europa | Euròpa | Europa | Europa | Iwrupa | Europa | Evropa | Европа | Europa | Europa | Europe | Eurohpá | Evropa | Europe | Európa | Evropa | Evropa | Европа | Europa | Europa | Ulaya | ஐரோப்பா | ทวีปยุโรป | Yurop | Avrupa | Европа | Європа | Evropa | Châu Âu | Urope | אייראפע | 欧洲 | Au-chiu

 

This article is licensed under the GNU Free Documentation License. It uses material from the "Ewrop".

Home Pageartsbusinesscomputersgameshealthhospitalshomekids & teensnewsphysiciansrecreationreferenceregionalscienceshoppingsocietysportsworld