article

Esgob William Morgan (1545 - 10 Medi 1604 ) oedd y gŵr a gyfieithodd y Beibl gyntaf yn gyflawn i'r Gymraeg. Cyhoeddwyd y Beibl yn 1588. Credir yn gyffredin mai hyn gymaint a dim arall sy'n gyfrifol i'r Gymraeg oroesi.

Fe'i ganwyd yn Tý Mawr Wybrnant Penmachno, yn fab i denant ar ystad y Gwydir. Mae'n debyg i dirfeddianwr yr ystad Morys Wyn ddarparu addysg oddi ar ei gaplan personol i feibion addas ei denantiaid. mae'n debyg i Edmwnd Prys]] fod yn gyd-fyfyriwr yr un pryd a William Morgan. Aeth y ddau wedyn i Goleg Sant Ioan, Caergrawnt. Treuliodd William Morgan tair blynedd ar ddeg yn y brifysgol gan feistroli Lladin, Groeg, Ffrangeg, Almaeneg, yn ogystal a Chymraeg.

Apwyntiwyd ef yn ficer Llanbadarn Fawr yn 1572 a'r Trallwng yn 1575.

Roedd cyfieithiad William Salesbury o'r Testament Newydd wedi bod ar gael ers 1567, er bod yna tipyn o feirniadu ar Gymraeg hwnnw wedi bod. Erbyn 1587 roedd wedi gorffen cyfieithu yr Hen Destament, y Testament Newydd a'r Apocrypha, ac fe ddaeth y cyfan drwy'r wasg yn 1588

Cysylltiadau Allanol


Cymry enwog | Cristnogaeth | Hanes Cymru

William Morgan (Bible translator) | Морган, Уильям

 

This article is licensed under the GNU Free Documentation License. It uses material from the "Esgob William Morgan".

Home Pageartsbusinesscomputersgameshealthhospitalshomekids & teensnewsphysiciansrecreationreferenceregionalscienceshoppingsocietysportsworld