article

Gŵyl ddiwylliannol bwysicaf Cymru yw'r Eisteddfod Genedlaethol, gyda chystadlu mewn llenyddiaeth, cerddoriaeth a drama yn elfen bwysig. Ymhlith y cystadleuthau pwysicaf mae cystadleuaeth am y gadair am awdl, y goron am bryddest a'r fedal ryddiaeth am ryddiaeth. Hefyd y Rhuban Glas i'r canwr unigol gorau.

Er fod traddodiad yr eisteddfod yn ganrifoedd oed ni chynhaliwyd yr Eisteddfod Genedlaethol gyntaf tan 1861 yn Aberdâr. Daeth y gyfres flynyddol i ben o ddiffyg cyllid yn 1868. Yn 1880 sefydlwyd Cymdeithas yr Eisteddfod Genedlaethol a dan nawdd y gymdeithas hon cynhaliwyd Eisteddfod Merthyr Tudful yn 1881 a chynhaliwyd eisteddfod yn ddifwlch wedyn arwahan i 1914 a 1940

Roedd Iolo Morgannwg wedi sefydlu Gorsedd Beirdd Ynys Prydain yn 1792. Fel y tyfodd yr Eisteddfod Genedlaethol daeth yr orsedd i'w chysylltu fwy fwy gyda hi nes datblygu yn rhan o seremoniau'r eisteddfod fel ag y mae heddiw.

Caiff yr Eisteddfod Genedlaethol ei chynnal bob blwyddyn yn ystod wythnos lawn gyntaf Awst, yn y de a'r gogledd bob yn ail.

Roedd Saesneg yn rhan o'r gweithgareddau a chlywid hi hyd yn oed ar lwyfan yr Eisteddfod. Gwnaeth y cyfansoddiad newydd yn 1952 nodi mai iaith swyddogol yr eisteddfod oedd Cymraeg

Eisteddfodau pwysig arall yw Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd ac Eisteddfod Rhyngwladol Llangollen.

Eisteddfodau Genedlaethol


19eg ganrif

20fed ganrif

21ain ganrif

Cysylltiadau allanol


Eisteddfod | Eisteddfod

Eisteddfodau

 

This article is licensed under the GNU Free Documentation License. It uses material from the "Yr Eisteddfod Genedlaethol".

Home Pageartsbusinesscomputersgameshealthhospitalshomekids & teensnewsphysiciansrecreationreferenceregionalscienceshoppingsocietysportsworld