Dafydd ap Gwilym yw enw un o feirdd pwysicaf Cymru. Fe'i gydnabyddir fel un o feirdd pwysicaf Ewrop gyfan yn ei gyfnod. Roedd yn ysgrifennu yng nghyfnod beirdd yr uchelwyr; credir iddo gael ei eni rhywbryd rhwng 1320 - a 1330 ym mhlwyf Llanbadarn Fawr ger Aberystwyth. Meistrolodd y mesur caeth a ddaeth i fri yn y cyfnod hwn sef y cywydd. Credir iddo farw tua 1380 ac iddo gael ei gladdu ym mynachlog Ystrad Fflur.
Roedd o dras uchelwr. Ei dad oedd Gwilym Gam ap Gwilym ab Einion, ni wyddom ddim amdano, heblaw am y ffaith i'w ewythr, Llywelyn ap Gwilym ab Einion, fod yn gwnstabl yng Nghastell Newydd Emlyn.
Prif destunau ei gerddi oedd natur a serch, a fuasai'n bynciau dieithr i farddoniaeth Gymraeg cyn hynny. Un o'i brif themâu yw'r hyn sy'n rhwystro ei garwriaeth; afon, ffenestr, person arall neu hyd yn oed frân yn crawcian uwch ei ben. Y rhwystr mwyaf oll, yn aml, yw anwadalrwydd ei gariad.
This article is licensed under the GNU Free Documentation License.
It uses material from the
"Dafydd ap Gwilym".
Home Page • arts • business • computers • games • health • hospitals • home • kids & teens • news • physicians • recreation• reference • regional • science • shopping • society • sports • world