Tan yn ddiweddar defnyddiwyd yr enw Cynfeirdd i ddisgrifio beirdd y chweched ganrif yn unig, ond bellach derbynnir yr enw fwy fwy i ddisgrifio'r beirdd o'r chweched ganrif tan gyfnod y Gogynfeirdd. Ymhlith gwaith y cynfeirdd sydd wedi goroesi mae gwaith Aneirin a Thaliesin. Cerdd arbenning o'r cyfnod hwn hefyd yw Armes Prydain, cerdd wlatgarol iawn sy'n galw am gynghrair i yrru'r Saeson o'r wlad ac a gyfansoddwyd tua 930. Yn aml iawn cysylltir yr Hengerdd a chwedlau a oedd yn cael eu hadrodd gan y Cyfarwydd. Y mwya adnabyddus o'r rhain yw Canu Llywarch Hen a Chanu Heledd. Mae nifer o'r cerddi sydd yn Llyfr Du Caerfyrddin a Llyfr Coch Hergest yn perthyn i oes y cynfeirdd hefyd.
Mae Joseph P Clancy wedi cyfieithu detholiad o waith y Cynfeirdd yn The Earliest Welsh Poetry.
This article is licensed under the GNU Free Documentation License.
It uses material from the
"Cynfeirdd".
Home Page • arts • business • computers • games • health • hospitals • home • kids & teens • news • physicians • recreation• reference • regional • science • shopping • society • sports • world