article Related Topics:
Cymru_Alliance :: Cymru_District
 

Mae Tywysogaeth Cymru yn un o'r gwledydd sy'n cyfansoddi'r Deyrnas Unedig.

Tywysogaeth Cymru
Arwyddair cenedlaethol: "Cymru am Byth"
DUCymru.png
Iaith swyddogol:Saesneg a'r Gymraeg
Prifddinas:Caerdydd
Gweinidog Cyntaf:Rhodri Morgan
Maint
 - Cyfanswm:
 - % dwr:
Rheng xx
20,779 km²
xx%
Poblogaeth
 - Cyfanswm (2001):
 - Dwysedd:

2,903,085
141/km²
Arian:Punt (£)
Cylchfa amser:UTC
Anthem cenedlaethol:Hen Wlad fy Nhadau

Hanes

Prif erthygl: Hanes Cymru

Glaniodd Iŵl Cesar ym Mrydain ym mis Awst 55 C.C., ond ni lwyddwyd i oresgyn Cymru (er nad oedd yr enw hwnnw'n bodoli ar y pryd, hyd yn oed ar y ffurf 'Cambria') am fwy na chanrif wedi hynny. Fe sefydlodd y Rhufeinwyr gadwyn o amddiffynfeydd dros dde Cymru , cyn belled â Chaerfyrddin (Maridunum). Mae yna dystiolaeth iddyn nhw fynd ymhellach i'r gorllewin a chroesi i Iwerddon. Adeiladasant gaer y lleng Caerleon (Isca), lle mae'r amffitheatr sydd wedi goroesi orau ym Mhrydain. Roedd y Rhufeinwyr hefyd yn brysur yn y gogledd -- mae hen chwedl yn dweud i Macsen Wledig, un o ymerawdwyr olaf yr ymerodraeth yn y Gorllewin, briodi Helen ferch pennaeth Cymreig o Segontiwm (Caernarfon gyfoes).

Ni wnaeth yr Engl-Saeson orfygu Cymru, oherwydd llwyddiannau milwrol y brenhinoedd Cymreig yn ogystal, wrth gwrs, â'r tirwedd a'r hinsawdd. Adeiladodd brenin yr Eingl-Saeson, Offa o Mersia glawdd mawr o ddaear ar hyd y ffin rhwng ei freniniaeth a gwlad y Cymry. Mae darnau o Glawdd Offa i'w weld heddiw.

Yr oedd Cymru'n dal yn wlad Gristnogol pan goresgynnwyd Lloegr gan y tylwythau paganaidd o'r tiroedd ellmynig. Fe aeth Dewi Sant ar bererindod i Rufain yn y 6ed ganrif, ac fe weithiodd fel esgob yng Nghymru ymhell cyn y cyrrhaeddodd Awstin i drosi brenin Caint a dechrau esgobaeth Caer-Gaint.

Roedd ymdrech goresgyniad y Normaniaid yn araf yng Nghymru, ac nis gyflawnwyd tan 1282 pan orchfygodd y Brenin Edward I o Loegr Llywelyn Ein Llyw Olaf, sef tywysog olaf annibynol Cymru, mewn brwydr yng Nghilmeri. Adeiladodd Edward res o gestyll mawr i gadw'r Cymry dan reolaeth, y cestyll enwocaf yw Rhuddlan, Conwy, Caernarfon, Biwmares, a Harlech.

Gwleidyddiaeth

Prif erthygl: Gwleidyddiaeth Cymru

Mae Cymru wedi bod yn Dywysogaeth er y drydedd ganrif ar ddeg, a reolwyd yn wreiddiol gan frenhinoedd neu dywysogion annibynnol neu led-annibynnolmegis Llywelyn Fawr ac yna gan ei wyr Llywelyn ein Llyw Olaf, a chymerodd y teitl Tywysog Cymru ym 1258, cydnabuwyd hyn gan y Goron Saesnig ym 1277 ar ol Cytundeb Aberconwy. Ar ol ei oresgyn gan Edward I, fe gyfyngwyd annibyniaeth Cymru yn 14eg canrif gan nifer o wrthryfeloedd bychain. Y gwrthrhyfel mwyaf oedd gwrthryfel Owain Glyndwr a ddechreuodd ym 1400 a churodd lu Seisnig ym Mhumlumon ym 1401. Cafodd Glyndwr ei gyhoeddi yn Dywysog Cymru ag edrychodd ef am gymorth oddi wrth y Ffrancwyr, ond erbyn 1409 roedd y lluoedd Seisnig yn rhy gryf.

Fe rannwyd Cymru yn saith Sir gan Ddeddf Undeb 1536, sef: Brycheiniog, Dinbych, Y Fflint, Morgannwg, Trefaldwyn, Penfro, a Maesyfed, a gwnaeth deddfau Lloegr hyn yn ddeddfau gwlad yng Nghymru.

Mae aelodau'r Cynulliad Cenedlaethol, a grëwyd ym 1998 ac sy'n cyfarfod yng Nghaerdydd, yn gael eu hethol gan y Cymry. Tywysog Cymru yw'r teitl y mae'r brenin neu frenhines Prydain Fawr yn rhoi i'w mab hynaf, ond nid yw'r tywysog yn byw yng Nghymru nac yn cymryd rhan yn ei llywodraethu. Tywysog Charles yw'r Tywysog Cymru cyntaf ers y canol oesoedd i fedru siarad dipyn bach o Gymraeg.

Daearyddiaeth

Prif erthygl: Daearyddiaeth Cymru

Cymrumap20.jpg

Cyn ad-drefnu llywodraeth lleol yn 1972, roedd 13 siroedd yng Nghymru: Sir Fôn, Sir Frycheiniog, Sir Gaernarfon, Sir Aberteifi, Sir Gaerfyrddin, Sir Ddinbych, Sir y Fflint, Sir Forgannwg, Sir Feirionnydd, Sir Drefaldwyn, Sir Benfro, Sir Faesyfed, a Sir Fynwy. Wedi'r ad-drefnu roedd 'na wyth sir: Clwyd, Dyfed, Gwent, Gwynedd, Powys, Morgannwg Canol, De Morgannwg a Gorllewin Morgannwg. Wedi'r creadigaeth yr awdurdodau unigol yn y 1990au, roedd amser anrhefn, efo rhai siroedd yn cymyd eu hen enwau, ac yn gadael rhai trefniadaethau e.e. yr Heddlu, yn croesi ffiniau'r siroedd, a rhai trefydd yn siroedd ar ei hunain e.e. Caerdydd, Abertawe, Wrecsam.

Mae tri Parc Cenedlaethol yng Nghymru: Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog, Parc Cenedlaethol Eryri a Pharc Cenedlaethol Arfordir Penfro. Dyfarnwyd y cestyll Biwmares, Harlech, Caernarfon a Chonwy Treftadaeth Byd UNESCO ym 1986 a'r ardal diwydiannol Blaenafon ym 2000.

Weler hefyd: Rhestr moroedd, baeau a phentiroedd Cymru, Rhestr ynysoedd Cymru, Rhestr mynyddoedd Cymru, Rhestr llynnoedd Cymru, Rhestr afonydd Cymru, Cronfeydd Cymru.

Economi

Prif erthygl: Economi Cymru

Mae rhannau o Gymru wedi bod yn ddiwydiannol ers yr 18fed canrif. Mae glo, copr, ac aur wedi cael eu mwyngloddi yng Nghymru, a llechi eu chwareli. Roedd gweithiau haearn, tin, a phyllau glo wedi denu nifer o fewnfudwyr i'r wlad yn ystod y 19fed canrif, yn enwedig i gymoedd de Cymru.

Demograffig

Cyfrifiad 2001:
  • Poblogaeth: 2,903,085, Gwryw: 1,403,782 Benyw: 1,499,303
  • Canran y boblogaeth ganwyd yn:
    • Lloegr: 20.32%
    • Cymru: 75.39%
    • Yr Alban: 0.84%
    • Gogledd Iwerddon: 0.27%
    • Gweriniaeth Iwerddon: 0.44%
  • Grwp ethnig:
    • Croenwyn: Prydeining: 95.99%
    • Croenwyn: Gwyddelig: 0.61%
    • Croenwyn: eraill: 1.28%
    • Cymysg: croenwyn a croendu 0.29%
    • Cymysg: croenwyn ac asiaidd 0.17%
    • Cymysg: eraill: 0.15%
    • Asiaidd:
      • Indiaidd: 0.28%
      • Pacistanaidd: 0.29%
      • Bangladeshaidd: 0.19%
      • Asiaidd eraill: 0.12%
    • Croendu: 0.25%
    • Tseiniaidd: 0.40%
    • Canran y boblogaeth yn cydnabod eu hunain fel Cymry: 14.39% (Doedd ffurflen y cyfrifiad ddim yn gofyn y cwestiwn hwn ac fe fu llawer o gwyno am hynny. Felly dyma'r canran o bobl a wnaeth ysgrifennu'r wybodaeth hon ar y ffurflen er nad oedd disgwyl iddynt wneud hynny.)
  • Crefyddau:
    • Cristnogol: 71.9%
    • Bwdism: 0.19%
    • Hindw: 0.19%
    • Iddewig: 0.08%
    • Moslemaidd: 0.75%
    • Sîcaidd: 0.07%
    • Crefyddau eraill: 0.24%
    • Dim crefydd: 18.53%
    • Dim yn dweud: 8.07%
  • Oed y boblogaeth:
    • 0-4: 167,903
    • 5-7: 108,149
    • 8-9: 77,176
    • 10-14: 195,976
    • 15: 37,951
    • 16-17: 75,234
    • 18-19: 71,519
    • 20-24: 169,493
    • 25-29: 166,348
    • 30-44: 605,962
    • 45-59: 569,676
    • 60-64: 152,924
    • 65-74: 264,191
    • 75-84: 182,202
    • 85-89: 38,977
    • 90+: 19,404
  • Gwybodaeth ar yr iaith Gymraeg:
    • Canran y boblogaeth 3 blwydd oed neu hýn yn deall Cymraeg yn unig: 4.93%
    • Canran y boblogaeth 3 blwydd oed neu hýn yn siarad Cymraeg, ond ddim yn ysgrifennu na darllen Cymraeg: 2.83%
    • Canran y boblogaeth 3 blwydd oed neu hýn yn siarad a darllen Cymraeg, ond ddim yn ysgrifennu Cymraeg: 1.37%
    • Canran y boblogaeth 3 blwydd oed neu hýn yn siarad, darllen, ac ysgrifennu Cymraeg: 16.32%
    • Canran y boblogaeth 3 blwydd oed neu hýn gyda rhyw gyfuniad o'r sgiliau hyn : 2.98%
    • Canran y boblogaeth 3 blwydd oed neu hýn heb wybodaeth o'r iaith Gymraeg: 71.57%

Diwylliant

Prif erthygl: Diwylliant Cymru

Cysylltiad allanol

Wallis | Wales | ويلز | Уелс | Kembre | Gal·les | Wales | Wales | Wales | Wales | Kimrio | Gales | Wales | Gales | Wales | Pays de Galles | An Bhreatain Bheag | A'Chuimrigh | Gales - Cymru | ויילס | Wales | Gal | Wales | Wales | Galles | ウェールズ | უელსი | 웨일스 | Wales | Kembra | Cambria | Ekólo Wali | Velsas | Velsa | Wales | Wales | Wales | Wales | Galles | País de Gallas | Walia | País de Gales | Valisa | Ţara Galilor | Уэльс | Wales | Wales | Wales | Wales | Велс | Wales | เวลส์ | Galler | 威爾士 | Cymru

 

This article is licensed under the GNU Free Documentation License. It uses material from the "Cymru".

Home Pageartsbusinesscomputersgameshealthhospitalshomekids & teensnewsphysiciansrecreationreferenceregionalscienceshoppingsocietysportsworld