'Nid dim llai na chwyldro yw adfer yr iaith Gymraeg yng Nghymru. Trwy ddulliau chwyldro yn unig y mae llwyddo'. Dyna oedd byrdwn datganiad herfeiddiol Saunders Lewis mewn un o'r darllediadau pwysicaf yn hanes Cymru, sef Darlith Radio flynyddol y BBC a draddodwyd ar 13 Chwefror 1962.
Galwodd Saunders Lewis ar Gymry i wrthod llenwi ffurflenni a thalu trethi a thrwyddedau os nad oedd yn bosibl i wneud hynny drwy'r Gymraeg. Yn ei farn ef, byddai angen i ymgyrchwyr fod yn barod i dalu dirwyon a wynebu carchar am eu daliadau.
Er bod y nifer o siaradwyr Cymraeg yn gostwng, datganodd : 'Fe ellir achub y Gymraeg'.
Sefydlwyd Cymdeithas Yr Iaith mewn dosbarth ysgol, yn Ysgol Uwchradd Pontarddulais ar 4 Awst 1962.
Roedd anniddigrwydd ar arweinyddiaeth Plaid Cymru, ac fe fu trafodaeth ar yr angen am fudiad iaith. Fe ddechreuodd rhai myfyrwyr yng Ngholeg Aberystwyth wrthod ymateb i wysion uniaith Saesneg. Roeddent yn ymwybodol o ymdrechion costus Eileen Beasley a Trefor Beasley i gael papur treth Cymraeg oddi wrth Gyngor Dosbarth Gwledig Llanelli. Ond hwyrach mai'r sbardyn tyngedfennol oedd darlith radio Saunders Lewis, Tynged Yr Iaith. Heriodd ef y Cymry i fynd ati "o ddifri a heb anwadalu i'w gwneud hi'n amhosibl dwyn ymlaen fusnes llywodraeth leol ... heb y Gymraeg."
Arweiniodd darlith Saunders Lewis at sefydlu Cymdeithas yr Iaith Gymraeg ac at gyfnod o brotestio dros hawliau'r Gymraeg.
Sefydlwyd y Gymdeithas ar 4 Awst 1962 yn ystod Ysgol Haf Plaid Cymru ym Mhontarddulais. Yn Chwefror 1963 gwelwyd y protestiadau torfol cyntaf pan ataliwyd y traffig ar Bont Trefechan Aberystwyth gan fyfyrwyr o Aberystwyth a Bangor.
Yn ystod y 1960au a'r 1970au bu nifer o brotestiadau didrais tebyg a charcharwyd neu ddirwywyd ymgyrchwyr. Ymhlith y rhain oedd y canwr poblogaidd Dafydd Iwan.
Enillwyd rhai consesiynau gan y Llywodraeth gan gynnwys Deddf Iaith 1967 a chynhyrchwyd ffurflenni dwyieithog gan rai cyrff cyhoeddus.
Am gyfnod peintiwyd neu ddifrodwyd arwyddion ffyrdd uniaith Saesneg ar hyd a lled Cymru gan gefnogwyr y Gymdeithas ac arweiniodd yr ymgyrch hon at sefydlu'r egwyddor o arwyddion dwyieithog yng Nghymru.
Ar ddechrau'r 1970au dechreuodd Cymdeithas yr Iaith ymgyrchu dros wasanaeth darlledu radio a theledu Cymraeg.
Gwrthododd rhai protestwyr â phrynu trwyddedau teledu a bu eraill yn dringo mastiau darlledu ac yn ymyrryd â stiwdios teledu.
Cynyddodd y pwysau ar yr awdurdodau darlledu i gynnig gwasanaeth Cymraeg ac yn 1977 sefydlwyd Radio Cymru gan y BBC.
Roedd cynlluniau hefyd i sefydlu sianel deledu ar wahân ar gyfer rhaglenni Cymraeg ond yn 1979 cyhoeddodd y Llywodraeth Geidwadol na fyddai'n cadw'r addewid i sefydlu'r fath sianel.
Gan hynny, cyhoeddodd Gwynfor Evans y byddai'n dechrau ymprydio oni fyddai'r Llywodraeth yn anrhydeddu ei haddewid. Achosodd y penderfyniad hwn gryn gynnwrf ac ofnid y gallai arwain at ymgyrchu treisgar.
Yn y pen draw ildiodd y Llywodraeth i'r pwysau a chyhoeddwyd ym mis Medi 1980 y darlledid rhaglenni teledu Cymraeg ar y bedwaredd sianel newydd. Lansiwyd Sianel Pedwar Cymru (S4C) yn 1982.
Erbyn heddiw, mae newidiadau mawr ar droed yn y byd darlledu. Mae'n gyfnod cyffrous a chyfnewidiol wrth i bawb yn y maes geisio dirnad dyfodol y cyfryngau yng Nghymru a thu hwnt. Mae'r chwyldro digidol yn cynnig cyfleoedd newydd i'r iaith Gymraeg, ond hefyd sawl her.
Mae Cymdeithas yr Iaith yn galw am drafodaeth agored ar ddyfodol darlledu a'r cyfryngau newydd yn Gymraeg, a sut gallwn sicrhau lle blaenllaw i'r Gymraeg yn y datblygiadau hyn.
Ymysg y pynciau sydd angen eu trafod mae:
Cred Cymdeithas yr Iaith fod dyfodol yr iaith Gymraeg yn dibynnu ar sefydlu dyfodol i gymunedau lleol ym mhob rhan o Gymru. Golyga hyn bod polisiau teg ym maes tai a chynllunio yn gwbwl hanfodol.
Mae angen sicrhau bod gan bobl y gallu i brynu neu rentu tai yn eu cymunedau. Yn ogystal, mae'n hollbwysig nad yw'r awdurdodau yn rhoi caniatâd i ddatblygiadau tai a all niweidio'r gymuned leol, yr iaith Gymraeg neu'r amgylchedd naturiol.
Caiff polisiau Cymdeithas yr Iaith yn y maes yma eu crynhoi o dan faner Deddf Eiddo. Dyma bolisi cynhwysfawr sydd yn ymdrin a phob agwedd o’r argyfwng tai, boed hynny’n brisiau afresymol, diffyg darpariaeth o dai ar rent neu ddatblygiadau tai niweidiol.
Ar ddechrau 2004, cychwynodd Cymdeithas yr Iaith ar flwyddyn o ymgyrchu, er mwyn tynnu sylw at yr angen am Ddeddf Eiddo i Gymru.
Bu llawer o son yn ddiweddar ynglyn â'r problemau tai difrifol sydd yn peryglu dyfodol ein cymunedau ar iaith Gymraeg. Gwelwyd bod:
Eto i gyd, dros y blynyddoedd diwethaf, mae Llywodraeth y Cynulliad wedi bod yn amharod iawn, i gymryd hyd yn oed y camau mwyaf cyfung, er mwyn lleddfu effeithiau’r argyfwng tai. Gwrthodwyd cyfres o gamau posib, gan gynnwys galwadau penodol Cymdeithas yr Iaith.
Yn y cyfamser mae effeithiau'r argyfwng tai yn parhau i frathu, gan danseilio cymunedau ledled Cymru, ynghŷd â rhagolygon yr iaith Gymraeg. O ganlyniad, ar ddechrau blwyddyn newydd, mae Cymdeithas yr Iaith yn datgan bod yn rhaid bellach ymgyrchu am newidiadau sylfaenol, gan gynnwys ymyrraeth yn y farchnad dai. Gellid cyflawni hyn trwy gyfrwng Deddf Eiddo – pecyn o fesurau sydd yn ymdrin â phob agwedd o'r argyfwng tai, boed hynny'n brisiau tai afresymol, diffyg darpariaeth o dai ar rent neu ddatblygiadau tai niweidiol. Y Cefndir
Dros y flwyddyn ddiwethaf, bu ymgyrchu Cymdeithas yr Iaith ym maes tai, yn canolbwyntio ar dynnu sylw at gyfres o gamau brys y gallai Llywodraeth y Cynulliad eu cymeryd er mwyn lleddfu effeithiau'r argyfwng tai. Yn sicr ni fyddai'r camau hyn wedi mynd at wraidd y broblem, gan ddatrus popeth, ond fe fyddent wedi bod yn gam cadarnhaol i'r cyfeiriad cywir. Galwyd ar y Llywodraeth i ddarparu cynnydd sylweddol yn ei gyllideb tai ar gyfer y flwyddyn nesaf er mwyn darparu:
Fel rhan o'r ymgyrch, casglwyd cefnogaeth dros 130 o Gynghorau Cymuned o bob rhan o Gymru.
Ar ben hynny cynhaliwyd cyfarfodydd gyda llu o Aelodau Cynulliad gan gynnwys y Gweinidog Perthnasol - Edwina Hart. Yn y cyfarfod hwnnw, nododd mai tai fforddadwy fyddai un o'i blaenoriaethau ar gyfer y flwyddyn nesaf. Er gwaethaf hyn, nid oedd cyllideb ddiwethaf Llywodraeth y Cynulliad yn cynnwys unrhyw ddarpariaeth ariannol ychwanegol ar gyfer mynd i'r afael a'r argyfwng tai. Yn wir, mae Cyllideb tai y Cynulliad bellach yn llawer is nag ydoedd yn nyddiau'r Swyddfa Gymreig! Ar ben hynny, roedd y ffaith fod cyllideb ddiwethaf y Llywodraeth yn amlinellu ei gynlluniau gwariant am y dair mlynedd nesaf yn cau'r drws am rai blynyddoedd.
Gwraidd yr argyfwng tai yw natur gystadleuol y farchnad dai, sy'n golygu bod pobl leol yn methu cael gafael ar dai ac eiddo yn eu cymunedau lleol. Cred Cymdeithas yr Iaith yw bod mynd i'r afael â'r argyfwng tai yn galw am elfen reolaeth dros y farchnad dai – er enghraifft trwy gyfrwng Deddf Eiddo. Trwy wrthod ystyried y camau brys a gynigiwyd iddynt dros y flwyddyn ddiwethaf, dangosodd Llywodraeth y Cynulliad nad oes budd mawr mewn ymgyrchu dros newidiadau cyfung, llawer gwell bellach yw i ymgyrchu dros becyn cyflawn o newidiadau – Deddf Eiddo!
O ganlyniad, bu aelodau o'r Gymdeithas wrthi, ers rai misoedd, yn ail-edrych ar bolisi Deddf Eiddo'r mudiad, gan roi ystyriaeth i ddatblygiadau diweddar yng Nghymru ac mewn rhannau eraill o Brydain ac Ewrop.
drwy roi'r hawl i bawb gael cartref ar rent teg yn eu cymuned, drwy roi'r cyfle cyntaf i bobl leol wrth werthu eiddo, a thrwy ddod a'r farchnad leol yn raddol yn ôl o fewn cyrraedd pobl leol, fel na fydd perchnogion presennol ar eu colled. Bydd hyn yn galluogi pobl leol i brynu neu rentu ffermydd a busnesau bach yn ogystal â thai.
drwy alluogi pobl leol i gael y tai sy'n bod eisioes a'u hadnewyddu a'u haddasu os bydd angen, peidio â chaniatau codi tai newydd oni bai fod angen lleol a dim tai addas yno'n barod, a pheidio â chaniatau cynlluniau niweidiol – gan gynnwys rheini sydd wedi'u pasio'n barod.
trwy reoli pethau fel glo brig, chwareli a datblygiadau twristiaeth mawr yn ogystal â thai diangen, ac felly'n gam pwysig iawn tuag at ddiogelu amgylchedd naturiol Cymru.
dim ond trwy Ddeddf Eiddo y bydd modd amddiffyn ein cymunedau rhag cael eu hecsbloetio gan y drefn gynllunio, a sicrhau hawl bobl leol i gael cartrefi yn lleol.
Mae Cymdeithas yr Iaith Gymraeg yn galw am Ddeddf Iaith Newydd i Gymru, a fydd yn ateb anghenion y Gymraeg yn yr oes fodern ac yn sicrhau bod gan bawb yr hawl i ddefnyddio'r iaith ym mhob agwedd o fywyd.
Ar hyn o bryd, os ydyn ni eisiau rhywbeth yn Gymraeg - bil ffôn er engrhaifft, neu ffurflen - mae'n rhaid gofyn amdano ac yn aml does dim ar gael! Serch hynny, fe ddylai'r pethau hyn fod ar gael yn ddwyieithog i bawb yng Nghymru. Ni ddylai siaradwyr Cymraeg orfod mynd allan o'i ffordd i ofyn am wasaneth yn eu hiaith eu hunain, neu fodloni ar ddefnyddio'r Saesneg, gan nad oes gwasaneth Cymraeg ar gael. O ganlyniad, mae angen Deddf Iaith Newydd i sicrhau fod pob math o wasanaethau ar gael yn ddwyieithog.
Yn ystod yr 1980au, dechreuodd Cymdeithas yr Iaith ymgyrchu dros Ddeddf Iaith i sicrhau fod pob cyhoeddiad a hysbysiad swyddogol yn dod yn naturiol ddwyieithog heb orfod gofyn. Ar ol ymgyrchu caled, gorfodwyd y Llywodraeth Geidwadol i ymateb. Serch hynny, ei ymateb oedd rhannu pobl Cymru trwy gynnig cyn lleied ag oedd modd. Pasiwyd Deddf Iaith wan!
Yn ôl y Ddeddf byddai bwrdd statudol yn cael ei sefydlu i hyrwyddo'r Gymraeg a byddai cyrff cyhoeddus yn gorfod paratoi cynlluniau iaith i ddangos sut yr oeddynt am roi triniaeth deg i'r Gymraeg, h.y. Deddf 'ddi-ddannedd, ddiddim.'.
Nid yw Deddf Iaith 1993 yn:
Am hynny mae Cymdeithas yr Iaith yn galw am Ddeddf Iaith Newydd!
Nôl ym 1993 roedd Rhodri Morgan yn cefnogi dadl Cymdeithas yr Iaith - gwrthododd gefnogi Deddf Iaith 1993. Dyma oedd ei eiriau bryd hynny:
"The Government calls this a Welsh Language Bill, but it would be better described as a Welsh Language Quango Bill. What one could call a Quango for the lingo ...... We shall be abstaining tonight because we hope to have the opportunity before long to do the job properly. That will be done when we revisit the question of a Welsh language messure when we are in Government."
Erbyn hyn, ac yntau yn Brif Weinidog Cymru, mae Rhodri Morgan wedi newid ei feddwl!
Cyn y 1960au tueddai'r Gymraeg fod yn iaith yr aelwyd a'r capel a phrin oedd y defnydd o'r iaith mewn cylchoedd eraill. Ond gyda'r adfywiad yn y diddordeb yn y Gymraeg a'r ymgyrchu ar ei rhan, gwelwyd cynnydd yn y mudiadau a chymdeithasau a hyd yn oed busnesau a weithredai drwy gyfrwng y Gymraeg. Cyhoeddwyd llawer mwy o lyfrau Cymraeg a sefydlwyd dwsinau o bapurau bro Cymraeg ledled Cymru.
Defnyddiwyd y Gymraeg fwyfwy mewn bywyd cyhoeddus ac yr oedd y Cynulliad Cenedlaethol a sefydlwyd yn 1999 wedi'i gyfundrefnu i weithredu'n ddwyieithog.
This article is licensed under the GNU Free Documentation License.
It uses material from the
"Cymdeithas yr Iaith".
Home Page • arts • business • computers • games • health • hospitals • home • kids & teens • news • physicians • recreation• reference • regional • science • shopping • society • sports • world