Mae Clwb Rygbi Llanelli yn dîm Rygbi'r Undeb Cymreig a sefydlwyd yn 1872. Maent yn chwarae mewn coch a gwyn, a'u maes yw Parc y Strade, (Llanelli).
Mae Llanelli bron bob amser wedi bod yn un o dimau clwb cryfaf Cymru. Ei hoes aur, mae'n debyg, oedd yn nechrau'r 1970au pan oedd Carwyn James yn hyfforddwr arnynt. Yn y cyfnod yma enillasant Gwpan Cymru bedair gwaith yn olynol rhwng 1973 a 1976, yn ogystal a churo tîm y Crysau Duon mewn gêm enwog yn 1972. Cafodd Llanelli fuddugoliaeth dros Awstralia yn 1967 a chawsant gêm gyfartal gyda hwy yn 1975.
Cân Llanelli yw "Sosban Fach", cân sydd wedi dod yn gyfysyr a'r clwb bellach.
Mae Llanelli yn chwarae yn y Principality Premiership yn y tymor 2005/2006. Maent yn bwydo i mewn i dîm Scarlets Llanelli sy'n chwarae yn y Gynghrair Geltaidd.
This article is licensed under the GNU Free Documentation License.
It uses material from the
"Clwb Rygbi Llanelli".
Home Page • arts • business • computers • games • health • hospitals • home • kids & teens • news • physicians • recreation• reference • regional • science • shopping • society • sports • world