article

Cyfnod o newid mewn cymdeithas a datblygiad diwydiant a ddechreuodd yn y ddeunawfed ganrif oedd y Chwyldro Diwydiannol. Dyfeisiwyd y peiriant stem gan James Watt ac adeiladu ffatrïoedd. Roedd eisiau tanwydd (glo) i weithio'r peiriannau ac yr oedd llawer o adnoddau megis haearn yn cael eu defnyddio i gynhyrchu llawer o nwyddau. Ymhlith achosion y Chwyldro Diwydiannol oedd y boblogaeth yn symud i'r trefi o'r wlad oherwydd tlodi yn yr ail ganrif ar bymtheg, cynnydd yn y boblogaeth a rhyfeloedd y ddeunawfed ganrif: Y Rhyfel Saith Mlynedd (1756 - 1763), Rhyfel Annibyniaeth America (1775 - 1783) a Rhyfeloedd Napoleon (1803 - 1815) yn dilyn y Chwyldro Ffrengig (1793 - 1802).

Dechreuoedd y Chwyldro Diwydiannol yn Lloegr, ond lledodd i wledydd eraill Ewrop ac i'r Unol Daleitiau yn y pedwaredd ganrif ar bymtheg. Sbardynodd dyfais y 'Rocket' gan George Stephenson a lledaeniad rhwywaith rheilfyrdd yn ogystal a'r ddyfais stêmar gan Robert Fulton newid cymdeithasol a masnachol y byd. O ganlyniad i'r Chwyldro Diwydiannol, cododd poblogaeth Cymru a Lloegr o 8.8 miliwn ym 1801 i 29.9 miliwn ym 1881.

Y Chwyldro Diwydiannol yng Ngymru

Roedd Cymru yn dal i fod yn wlad wledig ym hanner gyntaf y ddeunawfed ganrif, a hi oedd yr ail wlad lle bu'r Chwyldor Diwydiannol, gan ddilyn Lloegr. Erbyn y bedwaredd ganrif ar bymtheg roedd diwydiant y gogledd a'r de yn datblygu, gyda diwydiannau megis haearn, crochenwaith, plwm, glo a llechi. Ar yr un pryd, roedd technoleg amathyddiaeth yn datblygu. Beth bynnag, daeth De Cymru yn ganolfan diwydiannol pennaf y wlad yn ystod hanner gyntaf y bedwaredd ganrif ar bymtheg gyda diwydiant dur, glo a copr.

Er mwyn trosglwyddo'r holl nwyddau cafodd ffyrdd reilffyrdd, porthladdoedd a chamlesi eu hadeiladu ledled Cymru.

Roedden Henry Hussey Vivian Arglwydd cyntaf Abertawe, William Thomas Lewis Arglwydd Merthyr a David Davies (Llandinam) ymhlith diwydianwyr mwyaf llwyddiannus De Cymru.

ثورة صناعية | Индустриална революция | Revolució industrial | Den industrielle revolution | Industrielle Revolution | Industrial Revolution | Industria revolucio | Revolución industrial | Industri Iraultza | Teollinen vallankumous | Révolution industrielle | Revolución Industrial | המהפכה התעשייתית | Industrijska revolucija | Ipari forradalom | Revolusi Industri | Rivoluzione industriale | 産業革命 | 산업혁명 | Rūpnieciskā revolūcija | Револуţиа индустриалă | Industrielle Revolutschoon | Industriële revolutie | Den industrielle revolusjonen | Den industrielle revolusjon | Rewolucja przemysłowa | Revolução Industrial | Revoluţia industrială | Промышленная революция | Industrial Revolution | Индустријска револуција | Industriella revolutionen | தொழிற்புரட்சி | การปฏิวัติอุตสาหกรรม | Sanayi devrimi | Промислова революція | 工业革命

 

This article is licensed under the GNU Free Documentation License. It uses material from the "Y Chwyldro Diwydiannol".

Home Pageartsbusinesscomputersgameshealthhospitalshomekids & teensnewsphysiciansrecreationreferenceregionalscienceshoppingsocietysportsworld