Mae Cernyweg (Cernyweg: Kernewek) yn iaith Geltaidd. Bu'r iaith farw ond mae wedi cael adfywiad yn ddiweddar ac mae tua mil o bobl yng Nghernyw yn siarad Cernyweg. Mae'n bosibl gwrando ar y newyddion yng Nghernyweg ar BBC Cornwall bob nos Sul. Mae'n hynod ddiddorol i siaradwyr Cymraeg wrando arno, gan ei fod ar adegau'n swnio fel Cymraeg.
Mae'n bosib dysgu'r iaith drwy'r rhyngrwyd, drwy ddefnyddio Kernewek Dre Lyther lle ceir nifer o wersi ar ffurf Adobe Acrobat.
Astudiwyd Cernyweg Modern Cynnar yn y 1700au gan yr ieithydd Cymraeg, Edward Llwyd. Erbyn hyn, roedd yr iaith yn marw allan yn gyflym. Mae llawer yn dweud mai'r person olaf i siarad yr iaith fel mamiaith oedd Dolly Pentreath, a fu farw ym 1777. Ond mae tystiolaeth bod rhai siaradwyr brodorol wedi parhau tan y 19eg ganrif. Er mai ei geiriau olaf oedd "My ny vydn kewsel Sowsnek!" - dwi ddim isio siarad Saesneg! - roedd hi o leiaf yn gallu ychydig o Saesneg. Mae'n bosibl mai'r person olaf i siarad Cernyweg yn unig oedd Chesten Marchant, a fu farw ym 1676.
Yn necharau'r ugeinfed ganrif, bu adfywiad or iaith. Erbyn y dauddegau, sefydlwyd Gorsedh Kernow - Gorsedd Cernyw, i sicrhau fod yr iaith yn parhau, yn debyg i fudiad yr Eisteddfod yng Nghymru. Ym 1967, sefydlwydd Kesva an Taves Kernewek - Bwrdd Iaith Cernyweg. Pwrpas y bwrdd oedd perswadio pobl leol, a thrwy'r wlad, i ddysgu'r iaith. Ym 1979 sefydlwyd Kowethas an Yeth Kernewek - Cymdeithas yr Iaith Gernyweg i ymladd dros yr iaith, yn yr un ffordd a Cymdeithas yr Iaith Gymraeg, drwy wthio am ddefnydd o'r iaith mewn sefyllfaoedd pob dydd. Wedi llwyddiant Kowethas erbyn 1985, parhaodd y ddau gorff fod yn anmibynnol ond gan gweithio yn agos gyda'i gilydd.
Mae pedair ffordd o ysgrifennu Cernyweg ar y funud, sydd yn achosi problemau i ddysgwyr. Fe siaredir y iaith yr un fath, ond mae ambell i air yn edrych yn bur wahanol.
Dechreuodd y broblem yn nechrau'r ugeinfed ganrif gyda Henry Jenner a Robert Morton Nance, pan ddaru nhw adfywio'r iaith drwy ddefnyddio Cernyweg Unedig (UC), Kernewek Unes a oedd wedi ei sefydlu ar Gernyweg y bymtheg ganrif. Hwn oedd Cernyweg modern am flynyddoedd ac mae nifer yn dal i'w ddefnyddio. Yn anffodus roedd nifer o broblemau gyda'r system.
Yn yr 80au datblygwyd Cernyweg Modern Curnoack Nowedga gan Richard Gendall. Sefydlwyd y system hon ar sillafu Saesneg, ac fe brofodd yn amhoblogaidd, yn enwedig am fod newidiadau yn dod yn aml iawn.
Ym 1986 datblygodd Ken George, awdur Gerlyver Kernewek-Sawsnek Kernewek Kemmyn (yn llythrennol Cernyweg Cyffredin). Fe fabwysiadwyd y system gan Fwrdd yr Iaith Gernyweg, ac mae hyd at 80% o ddysgwyr a siaradwyr Cernyweg yn ei ddefnyddio.
Ym 1995 addaswyd UC i ffurfio UCR Kernowek Unys Amendys gan Nicholas Williams. Cyhoeddwyd geiriadur mewn UCR yn 2000.
| Cernyweg (UCR) | Cernyweg (KK) | Cymraeg | Llydaweg | Saesneg |
|---|---|---|---|---|
| Kernowek | Kernewek | Cernyweg | Kerneveureg | Cornish |
| gwenenen | gwenenenn | gwenynen | gwenanenn | bee |
| chayr, cadar | kador | cadair | kador | chair |
| cues | keus | caws | keuz | cheese |
| mesporth | yn-mes | y ffordd allan | er-maez | exit |
| codha | koedha | cwympo | kouezhañ | (to) fall |
| gavar | gaver | gafr | gavr | goat |
| chy | chi | tŷ | ti | house |
| gweus | gweus | gwefus | gweuz | lip |
| aber | aber | aber, genau | aber | mouth (river) |
| nyver | niver | rhif, nifer | niver | number |
| peren | perenn | gellygen | perenn | pear |
| scol | skol | ysgol | skol | school |
| megy | megi | mygu | mogediñ | (to) smoke |
| steren | sterenn | seren | steredenn | star |
| hedhyw | hedhyw | heddiw | hiziv | today |
| whybana | hwibana | chwibanu | c'hwibanat | (to) whistle |
Bore da - Myttin da
P'nawn da - Dohajydh da
Noswaith dda - Gorthewer da
Nos da - Nos da
Sut yda chi? - Fatla genes?
Iawn diolch - Yn poynt da, meur rasta
Diolch - Meur rasta
Os gwelwch yn dda - Marpleg
Iawn boi? - Hou sos?
Ieithoedd | Ieithoedd Celtaidd
Kornies | Kornisch | Córnicu | Корнская мова | Kerneveureg | Còrnic | Kornština | Kornisch | Pow Sows | Cornish language | Kornvala lingvo | Idioma córnico | Kornin kieli | Cornique | Coirnis | קורנית (שפה) | Lingua cornica | コーンウォール語 | Kernewek | Lingua Cornovica | Cornish | Cornisch | Kornisk språk | Cornic | Język kornijski | Língua córnica | Pow Sows | Cornish language | Korniska | 康瓦爾語
This article is licensed under the GNU Free Documentation License.
It uses material from the
"Cernyweg".
Home Page • arts • business • computers • games • health • hospitals • home • kids & teens • news • physicians • recreation• reference • regional • science • shopping • society • sports • world