Mae'n bosibl mai'r caneuon poblogaidd cyntaf oedd caneuon "The Beggar's Opera" (1728) gan John Gray. Roedd alawon y ddrama wedi eu gosod i faledi poblogaidd yr oes.
Roedd caneuon poblogaidd diwedd y 19fed ganrif yn dod o'r operetta. Fe gyfansoddodd Jaques Offenbach "Orphée aux Enfers" (Orpheus yn yr Annwn) yn 1858 O'r operetta hwn ddaeth y "Galop Infernal" (y Can-can) ac fe gyfansoddodd "La Belle Hélène" (Helen Lân) yn 1864. Fe gyfansoddodd Johann Strauss II ei operetta gyntaf "Indigo und die Vierzig Raüber" (Indigo a'r Deugain Lleidr) yn 1871 ac wedyn yn 1874 ei operetta mwyaf poblogaidd "Die Fledermaus" (Yr Ystlum). Yn 1879 oedd operetta cyntaf Gilbert a Sulivan "The Pirates of Penzance".
Yn 1951 fe ddefnyddiodd y D.J. Alan Freed yr ymadrodd "rock and roll" i ddisgrifio caneuon R&B roedd e'n chwarae ar ei orsaf radio yn Cleveland, Ohio.
Bill Haley sy'n cael y glod am ddyfeisio roc a rôl ond roedd y math hwn o gerddoriaeth yn datblygu'n barod, cymysgedd o R&B, jazz a chanu gwlad oedd e. Mae hi'n debyg iawn mae "Rocket 88" (1951) gan Jackie Brenson oedd y gân roc a rôl gyntaf.
Mae gan roc a rôl bedwar curiad i'r bar ac fe fydd yr acen ar yr ail a'r bedwaredd curiad yn hytrach nag ar y curiad cyntaf. Dyma sut oedd cerddoriaeth boblogaidd yn mynd i fod o hyn ymlaen. Roedd roc a rôl wedi newid cerddoriaeth boblogaidd. Ar yr adeg hyn dechreuodd bobl ddefnyddio'r gair "pop" i ddisgrifio gerddoriaeth boblogaidd.
Doedd yr ymadrodd "roc a rôl" ddim yn cael ei ddefnyddio llawer ar ddechrau'r 1960au. Erbyn hyn, roedd yn well gan bobl ddefnyddio'r gair "pop". Roedd adfywiad câneuon gwerin yn y 1960au ac yn 1964 roedd y band "The Byrds" yn gosod rhythmau "roc a rôl" i ganeuon gwerin i greu Folk rock a Rock. O hyn ymlaen daeth y gair "pop" bron iawn yn gyfystyr a "roc".
Popmusik | Popmusik | Pop music | Pop-muziko | Pop | Popmusiikki | Pop (musique) | Popmuzyk | Pop | מוזיקת פופ | Popzene | Musica pop | Popmuziek | Popmuziek | Popmusikk | Muzyka pop | Поп-музыка | Pop music | Popmusik | Pop müzik
This article is licensed under the GNU Free Documentation License.
It uses material from the
"Cerddoriaeth boblogaidd".
Home Page • arts • business • computers • games • health • hospitals • home • kids & teens • news • physicians • recreation• reference • regional • science • shopping • society • sports • world